Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwario £23 miliwn mewn taliadau i gleifion
Mae bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi talu bron i £23 miliwn mewn hawliadau esgeulustod clinigol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd bwrdd iechyd y gogledd hefyd wedi talu £295,539 mewn hawliadau “iawndal ariannol” i gleifion, gyda gwerth £42,300 o gynigion sydd dal heb eu derbyn.
Mae’r ffigyrau wedi eu cynnwys mewn adroddiad gan y bwrdd iechyd, a fydd yn cael ei drafod ddydd Mercher.
Ychwanegwyd mai hawliadau yn ymwneud ag anafiadau geni oedd yn gyfrifol am gyfran uchaf yr hawliadau o ran arian, ond nid o ran niferoedd yr achosion.
Mae bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i'r rhai sydd wedi'u heffeithio."
Mae gan fyrddau iechyd ddyletswydd i ystyried cwynion os yw cleifion wedi eu niweidio neu wedi profi bygythiad i'w diogelwch.
Os yw’r bwrdd wedi methu yn eu dyletswydd i ofalu am glaf, mae hynny yn golygu bod cwyn yn gymwys am hawliad.
Adran frys
Fe wnaeth yr adroddiad nodi fod pob mater a setlwyd fel achos iawndal yn hytrach na hawliad esgeulustod clinigol yn arbed “swm sylweddol mewn costau cyfreithiol i’r bwrdd iechyd yn ogystal â darparu datrysiad cyflymach i gleifion”.
Nododd yr adroddiad fod 313 o hawliadau esgeulustod clinigol a 45 o hawliadau anaf personol wedi bod eleni.
Cyfanswm y swm a dalwyd yn ystod 2024/25 am esgeulustod clinigol oedd £22,847,718 ac am anaf personol, y swm oedd £259,907.
Roedd hyn yn cynnwys iawndal, costau’r hawlydd a chostau amddiffyn ar gyfer pob hawliad.
Roedd methiannau yn ymwneud ag “asesiad/ymchwiliad/diagnosis” yn parhau i fod yr achosion mwyaf cyffredin ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol.
Yr adrannau oedd yn destun achosion esgeulustod amlaf oedd yr adrannau brys, obstetreg, gynaecoleg, llawdriniaeth, a thrawma ac orthopedig.
Dywedodd yr adroddiad: “Mae nifer y materion sy'n digwydd yn yr adran frys wedi cynyddu, sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r pwysau a welir mewn lleoliadau gofal heb ei drefnu.
“Er nad dyma'r nifer uchaf, mae hawliadau anafiadau geni yn cyfrif am y symiau setliad mwyaf ar gyfer hawliadau esgeulustod clinigol.”
Nododd yr adroddiad hefyd: “Nid oes cynnydd wedi bod mewn hawliadau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â Covid 19, er bod camau gweithredu trwy 'achosion prawf' gan rai grwpiau staff a chleifion ledled y DU yn parhau i gael eu harchwilio.”
'Agored a thryloyw'
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Pam Wenger, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn cydnabod bod cleifion a theuluoedd sydd wedi profi niwed neu ofid y tu ôl i bob achos o esgeulustod clinigol neu iawndal, ac rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant i’r rhai yr effeithiwyd arnynt.
“Fel y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, rydym yn darparu gofal i dros 700,000 o bobl ledled Gogledd Cymru bob blwyddyn.
"Er bod y mwyafrif helaeth o gleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol, rydym yn derbyn bod achlysuron pan fydd pethau’n mynd o chwith.
"Yn y sefyllfaoedd hyn, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol a moesol i fod yn agored ac yn dryloyw, i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, i ymddiheuro, a lle bo’n briodol, i ddarparu iawndal ariannol.
“Rydym yn parhau i weithio’n galed i leihau nifer y digwyddiadau sy’n arwain at niwed trwy ddysgu o bob achos, cryfhau ein prosesau llywodraethu a diogelwch cleifion, a rhoi cynlluniau gwella cadarn ar waith i sicrhau’r gofal gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.”