Rhagolwg Cymru Premier JD: 'Hynod o dynn ar frig y tabl'

Sgorio
CPD Caernarfon

Mae’n hynod o dynn ar frig y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r tri uchaf ar ôl i Gaernarfon ddioddef eu colled gyntaf y tymor hwn yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn.

Y Seintiau Newydd sydd wedi camu i’r copa ar wahaniaeth goliau yn dilyn tair buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair, gyda’r Cofis a Pen-y-bont yn dynn ar sodlau’r pencampwyr.

Ar y gwaelod, bydd Llanelli yn falch o fod wedi sicrhau eu pwynt cyntaf y tymor yma yn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn, tra bod Hwlffordd mewn cyfnod helbulus ar ôl colli tair yn olynol. 

Nos Fawrth, 23 Medi

Bae Colwyn (5ed) v Y Bala (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Mae Bae Colwyn wedi mynd ar rediad o bum gêm heb golli gan godi i’r 5ed safle, ond roedd Michael Wilde yn siomedig wedi’r gêm ddi-sgôr yn erbyn Llanelli brynhawn Sadwrn, yn enwedig gan i’r Gwylanod fethu cic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf.

Honno oedd pumed gêm gyfartal Bae Colwyn mewn wyth gêm gynghrair, a daeth eu hunig golled hyd yma oddi cartref yn erbyn Y Bala ym mis Awst (Bala 1-0 Bae).

Ar ôl dechrau’n gryf mae’r momentwm wedi troi yn erbyn Y Bala sydd bellach ar rediad o bedair gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth.

Er eu safle addawol, mae goliau wedi bod yn brin i’r Bala sydd m’ond wedi rhwydo wyth gôl mewn wyth gêm gynghrair.

Mae’r Bala wedi ennill pob un o’u tair gêm flaenorol yn erbyn Bae Colwyn, yn cynnwys y fuddugoliaeth o 1-0 ar Faes Tegid yn gynharach y tymor hwn diolch i gôl gampus Dominic McGiveron. 

Record cynghrair diweddar: 

Bae Colwyn: ͏➖➖✅✅➖               Y Bala: ✅✅➖❌➖

Cei Connah (6ed) v Caernarfon (2il) | Nos Fawrth – 19:45

Mae Cei Connah wedi codi i’r hanner uchaf ar ôl curo Hwlffordd ddydd Sadwrn, ac mae gan dîm John Disney gêm wrth gefn hefyd.

Ond dyw record gartref y Nomadiaid heb fod yn arbennig gyda’r clwb m’ond wedi ennill un o’u pum gêm ddiwethaf ar Gae y Castell.

Ar ôl rhediad rhagorol o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth ar ddechrau’r ymgyrch mae’r Cofis wedi llithro i’r ail safle yn dilyn eu colled cyntaf y tymor hwn yn erbyn Pen-y-bont.

Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn gyda 25 o goliau, ac Adam Davies sydd wedi sgorio wyth o rheiny, gan greu pump i’w gyd-chwaraewyr hefyd.

Medi 2018 oedd y tro diwethaf i Gaernarfon ennill oddi cartref yn erbyn Cei Connah, a dyw’r Nomadiaid heb golli mewn 12 gêm gartref yn erbyn y Cofis ers hynny (ennill 8, cyfartal 4).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅✅❌➖✅                Caernarfon: ͏✅➖✅✅❌

Hwlffordd (11eg) v Y Barri (7fed) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn fyw arlein)

Mae’n gyfnod rhwystredig iawn i Hwlffordd sydd wedi syrthio i safleoedd y cwymp ar ôl colli tair gêm gynghrair yn olynol.

Er gorffen yn y 3ydd safle y tymor diwethaf, roedd y goliau’n brin i dîm Tony Pennock (cyfartaledd o 1.2 gôl y gêm), ac mae’n stori debyg eleni gan fod yr Adar Gleision m’ond wedi rhwydo pum gôl mewn saith gêm gynghrair hyd yn hyn.

I ychwanegu at eu trafferthion bydd rhaid i Hwlffordd ymdopi heb wasanaeth eu prif sgoriwr Ben Ahmun ar gyfer y gêm hon wedi i’r blaenwr gael ei hel o’r maes yn erbyn Cei Connah ddydd Sadwrn – chweched cerdyn coch Hwlffordd mewn 11 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor yma.

Di-sgôr oedd y frwydr rhwng Y Barri a’r Fflint brynhawn Sadwrn wrth i’r Dreigiau gadw eu pedwaredd llechen lân mewn pum gêm.

1-1 oedd sgôr terfynol y ddwy gêm rhwng y clybiau’r tymor diwethaf, ond yn y bedair blynedd diwethaf dyw Hwlffordd heb golli dim un o’u 10 gornest yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 5).

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ✅➖❌❌❌                       Y Barri: ➖➖❌✅➖

Llansawel (8fed) v Llanelli (12fed) | Nos Fawrth – 19:45

Mae Llansawel wedi llithro i’r hanner isaf ar ôl methu ag ennill dim un o’u pedair gêm gynghrair ddiwethaf.

Ers ennill o 3-0 oddi cartref yn erbyn y Seintiau ar y penwythnos agoriadol, dyw Llansawel heb gadw llechen lân yn eu saith gêm ganlynol ym mhob cystadleuaeth.

Bydd llanciau Llanelli yn teimlo rhyddhad o fod wedi cipio eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad yn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Bae Colwyn brynhawn Sadwrn, a bydd y canlyniad cadarnhaol yn hwb i’r garfan ar gyfer eu gemau nesaf.

Er hynny, dyw Llanelli m’ond wedi sgorio tair gôl mewn wyth gêm gynghrair, a dyw’r Cochion heb sgorio yn eu chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Mae Llansawel wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Llanelli, yn cynnwys buddugoliaeth o 4-2 ar Barc Stebonheath yn gynharach y tymor hwn, ac hynny ar ôl i Lanelli fynd ar y blaen o 2-0 wedi chwarter awr o chwarae.

Record cynghrair diweddar: 

Llansawel: ͏✅❌➖❌➖                    Llanelli: ❌❌❌❌➖

Met Caerdydd (10fed) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Dyw hi heb fod y dechrau delfrydol i’r tymor i Met Caerdydd sydd yn dal heb ennill gêm gynghrair y tymor hwn.

Mae’r myfyrwyr wedi llwyddo i sgorio ym mhob un o’u gemau y tymor yma, ond mae gormod o gemau cyfartal (5 allan o 8) wedi profi’n gostus i garfan Ryan Jenkins.

Mae Pen-y-bont wedi cau’r bwlch ar y ddau ar y brig gyda dim ond pwynt yn gwahanu’r tri uchaf wedi i dîm Rhys Griffiths ddod y tîm cyntaf i guro Caernarfon y tymor hwn.

Noah Daley oedd seren y sioe i’r ymwelwyr yn y glaw ar Barc Maesdu ddydd Sadwrn, yn taro ddwywaith i ddod â’i gyfanswm i saith gôl gynghrair mewn chwe gêm y tymor yma.

Met Caerdydd oedd yr unig glwb o’r uwch gynghrair i beidio â cholli yn erbyn Pen-y-bont y tymor diwethaf, wrth i’r myfyrwyr guro’r Gleision ddwywaith a chael tair gêm gyfartal.

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏➖❌❌➖❌                     Pen-y-bont: ͏✅❌➖✅✅

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Fflint (9fed) | Nos Fawrth – 19:45

Fel llynedd, mae’r Seintiau wedi cymryd eu hamser ar ddechrau’r tymor cyn codi i’w safle arferol ar frig y tabl, ac wedi wyth gêm gynghrair eleni, mae’r pencampwyr wedi camu i’r copa am y tro cyntaf y tymor hwn.

Un gôl sy’n gwahanu’r Seintiau a Chaernarfon ar frig y tabl gyda’r ddau glwb wedi ennill pump, colli un a chael dwy gêm gyfartal yn y gynghrair y tymor yma.

Y Seintiau sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair ar ôl ildio dim ond pum gôl mewn wyth gêm, gan gadw pum llechen lân.

Ar ôl sgorio goliau di-ri ar ddechrau’r tymor, dyw’r Fflint heb rwydo yn eu dwy gêm ddiwethaf gan lithro ‘nôl i’r hanner isaf (Pen 5-0 Ffl, Ffl 0-0 Barr).

Dyw’r Fflint heb guro’r Seintiau ers 30 mlynedd, ac yn y chwe gornest ddiwethaf rhwng y clybiau mae’r Seintiau wedi sgorio cyfartaledd o 5.8 gôl y gêm, yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-1, 7-0 a 6-2.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ➖➖✅✅✅                Y Fflint: ❌✅✅❌➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.