Gwynedd: Argymell gwrthod cais am lety gwyliau wedi 'pryderon' lleol

Cais cynllunio yng Ngwynedd

Mae swyddogion wedi argymell gwrthod cynllun am lety gwyliau mewn ardal wledig o Wynedd yn dilyn gwrthwynebiad lleol. 

Mae’r cais cynllunio ar gyfer 12 o gabanau ar dir pori ym mhentref Y Ffôr, ger Pwllheli. 

Byddai’n rhaid gwneud newidiadau i’r tir er mwyn adeiladu llety o’r fath – gan gynnwys creu meysydd parcio, gosod system draenio a gwneud newidiadau i fynediad y lleoliad presennol. 

Mae disgwyl i’r cais gael ei drafod yn ystod cyfarfod cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun nesaf, 29 Medi. 

Ond mae adroddiad diweddar wedi argymell na ddylai’r cais gael ei gymeradwyo yn sgil yr effaith byddai’n cael ar drigolion lleol a’r tir. 

Cafodd y cais ei gyflwyno gan DP Jones drwy Jonathan Moore Lambe, a hynny fel prosiect arallgyfeirio ar gyfer ffermio.

Mae’r unigolyn y tu ôl i’r cais cynllunio yn byw ar fferm yn Llanfrothen, Penrhyndeudraeth.

Yn ôl y cais, mae dirywiad “hirdymor” a “hanesyddol” wedi bod mewn incwm amaethyddol yn gysylltiedig â'r tir.

Yn sgil hynny mae ‘na “angen clir i arallgyfeirio,” meddai.

Image
Cais cynllunio

'Pryderon'

Fe fyddai’r cabanau yn mesur tua 13 metr o hyd a tua saith metr o led. Fe fyddan nhw’n amrywio ar sail tri dyluniad gwahanol. 

Ond mae Cyngor Cymuned Llannor wedi dweud y dylid gwrthod y cais cynllunio.

Maen nhw'n dweud nad yw’r cais yn cyflwyno “unrhyw dystiolaeth bellach o arallgyfeirio” gan ddweud na fydd neb yn byw ar y safle’n barhaol chwaith.  

Image
Cais cynllunio

Maen nhw hefyd wedi codi pryderon am dagfeydd yn yr ardal fyddai yn creu problemau i yrwyr a thrigolion lleol. 

Fe allai yna fod problemau diogelwch gan fod yna botensial i bobl gerdded ar hyd llwybrau tywyll gyda’r nos gan fod yna dafarn cyfagos meddai'r Cyngor Cymuned. 

Cafodd pryderon tebyg eu codi yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus. 

Roedd yna bryderon am ffyrdd lleol yn mynd yn fwy prysur a pheryglus gan hefyd greu mwy o sŵn yn yr ardal. 

Roedd eraill wedi nodi bod llety gwyliau eraill yn bodoli ac yn ddim yn denu digon o ymwelwyr fel y mai ac y byddai’r llety newydd yn gwaethygu’r sefyllfa. 

Roedd rhai hefyd yn pryderu na fyddai’r safle yn cael ei edrych ar ei ôl gan nad yw’r ymgeisydd yn lleol i’r ardal. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.