Jimmy Kimmel yn dychwelyd i ddarlledu ei sioe deledu wedi gwaharddiad
Bydd Jimmy Kimmel yn dychwelyd i ddarlledu ei sioe deledu ar ôl iddo gael ei wahardd am wneud jôcs am farwolaeth yr ymgyrchydd gwleidyddol Charlie Kirk.
Fe ddywedodd Disney, sydd yn berchen ar y rhwydwaith Americanaidd ABC sy'n darlledu'r rhaglen Jimmy Kimmel Live eu bod wedi gohirio'r sioe am eu bod yn teimlo bod rhai o'r sylwadau "wedi eu cam-amseru ac felly yn ansensitif."
Fe ychwanegon nhw eu bod wedi siarad gyda Jimmy a'u bod wedi penderfynu darlledu'r sioe eto ddydd Mawrth.
Roedd y digrifwr wedi dweud wrth ei gynulleidfa fod "llawer ym myd MAGA (Make America Great Again) yn gweithio'n galed iawn i fanteisio ar lofruddiaeth Charlie Kirk".
Fe ddaeth y gwaharddiad wedi bygythiadau gan y rheoleiddiwr teledu ffederal i dynnu yn ôl trwydded darlledu ABC. Fe arweiniodd hyn at raniadau barn ynglŷn â rhyddid mynegiant yn America.
Fe wnaeth Arlywydd yr UDA groesawu gwaharddiad Kimmel. Fe awgrymodd Donald Trump y gallai rhai rhwydweithiau teledu gael eu trwyddedau teledu wedi eu diddymu am ddarlledu sylw negyddol amdano.
Ond roedd yna wrthwynebiad gan ysgrifenwyr ac actorion a rhai undebau oedd yn dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn "sensoriaeth".