Trump yn cynghori menywod beichiog i beidio cymryd paracetamol

Trump (PA)

Fe fydd meddygon yr UDA yn cael eu cynghori i beidio rhoi paracetamol i fenywod beichiog yn y dyfodol medd Donald Trump.

Yn ôl yr Arlywydd mae yna gysylltiad sydd heb ei brofi rhwng y cyffur ac awtistiaeth mewn plant.

Fe wnaeth Trump y cyhoeddiad ddydd Llun gyda'r ysgrifennydd iechyd Robert F Kennedy Jr.

Fe ddywedodd bod paracetamol "ddim yn dda" ac y dylai menywod beichiog ond gymryd y cyffur os oes ganddynt wres eithafol.

Mae yna rhai astudiaethau sydd wedi dangos cysylltiad rhwng mamau oedd yn cymryd paracetamol tra'n feichiog ag awtistiaeth.

Ond dyw'r awduron ddim yn gallu profi bod y cysylltiad o achos y cyffur ei hun yn hytrach na ffactorau eraill fel genetig, ffordd o fyw ac yr amgylchedd.

Dyw'r casgliadau chwaith ddim yn gyson.

Y cyffur 'mwyaf saff' 

Mae gwneuthurwr y cyffur wedi dweud wrth y BBC bod y "dystiolaeth annibynnol, ddibynadwy wyddonol yn dangos yn glir bod cymryd acetaminophen ddim yn achosi awtistiaeth. Rydyn ni yn anghytuno yn gryf gydag unrhyw awgrym fel arall ac yn bryderus iawn am y risgiau iechyd y gallai hyn gael ar fenywod beichiog."

Maent hefyd yn dweud mai paracetamol yw'r cyffur sydd fwyaf saff i'w rhoi er mwyn lleddfu poen i fenywod sydd yn disgwyl babi.

Mae yna gynnydd wedi bod yn yr achosion o awtistiaeth yn America. Ond mae nifer o arbenigwyr yn dweud bod hyn o achos bod gwell dealltwriaeth o awtistiaeth sydd yn golygu bod mwy o bobl yn cael diagnosis.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Robert F Kennedy Jr wedi dweud y bydd yna label newydd yn cael ei rhoi ar y cyffur yn sôn am yr hyn mae'n dweud yw'r risgiau o gymryd y cyffur. Bydd yna hefyd ymgyrch iechyd cyhoeddus er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Yn ôl Coleg Obstetryddion a Gynaecolegwyr America mae'r cyhoeddiad gan yr Arlywydd yn "symleiddio mewn ffordd beryglus yr achosion sydd yn gymhleth a niferus o heriau niwrolegol mewn plant."  

Mae paracetamol yn cael ei gynghori gan nifer o lywodraethau ar draws y byd fel y cyffur mwyaf saff i'w rhoi i fenywod beichiog er mwyn lleddfu poen. 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.