Llys yn gorfodi cau siop yng Nghyffordd Llandudno
Mae llys wedi gorfodi siop yng Nghyffordd Llandudno i gau am dri mis, yn dilyn cwynion gan drigolion a busnesau lleol sy'n cynnwys "cyhuddiadau o weithgarwch anghyfreithlon ar y safle"
Clywodd yr ynadon yn Llandudno fore Mawrth fod pryderon am siop The OK Convenience Store ar Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno, wedi bod yn hysbus i Gyngor Conwy ers dwy flynedd.
Dywedodd Lesley Mitchell, ar ran y cyngor sir, wrth y llys: "Rydym yn parhau i dderbyn cwynion cyson gan fusnesau lleol eraill ac aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â gwerthu sigaréts electronig nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth, gwerthu nwyddau i blant dan oed, a gwerthu cynnyrch tybaco ffug."
Dywedodd Miss Mitchell fod swyddogion safonau masnach wedi bod yn ymweld yn fyson â'r busnes: "Mae swyddogion wedi derbyn cwynion a gwybodaeth ers nifer o fisoedd."
Fe glywodd y llys fod pobl leol yn teimlo'n "gynddeiriog" fod plant wedi bod yn gallu prynu sigaréts a fêps yn rhwydd o'r siop, ac fe ychwanegodd y cyfreithiwr "fod digon o dystiolaeth i ddangos bod gweithgaredd troseddol yn digwydd ar y safle".
Ni wrthwynebodd cyfarwyddwr y cwmni’r gorchymyn cau ac fe orchmynnwyd iddo dalu costau o £800.
Dywedodd cadeirydd yr ynadon, David Subacchi: “Rydym yn caniatáu’r cais am orchymyn cau am dri mis, ac yn fodlon bod niwsans difrifol wedi’i achosi i’r cyhoedd.”