'Eithriadol o siomedig': Canslo cyhoeddi adolygiad diogelu plant i achos Neil Foden
Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru wedi canslo cyhoeddi canfyddiadau adolygiad i brosesau diogelu plant a gafodd ei gomisiynu yn sgil troseddau’r pedoffeil a chyn-brifathro, Neil Foden.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n "eithriadol o siomedig" a nad oedd "unrhyw ragrybudd" am ganslo cyhoeddi y canfyddiadau a'u bod nhw "yn disgwyl am eglurhad pellach gan y Bwrdd Diogelu".
Roedd cyfarfod i rannu canfyddiadau Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi ei drefnu ar gyfer ddydd Mercher, 24 Medi.
Ond fe gadarnhaodd y bwrdd brynhawn Mawrth fod y cyfarfod wedi ei ganslo, ac na fydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi bryd hynny fel oedd y bwriad yn wreiddiol.
Cafodd yr adolygiad dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE ei gomisiynu fis Awst y llynedd yn dilyn cael y cyn-brifathro Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Ychydig dros flwyddyn ers comisiynu'r adolygiad, roedd disgwyl i'r adroddiad ‘Cyfiawnder trwy ein Dewrder’, gael ei rannu ddydd Mercher, gyda chynrychiolaeth o Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru, Cadeirydd y Panel Adolygu, Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ond mewn neges i'r wasg brynhawn Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd diogelu na fyddai cyhoeddiad Adolygiad Ymarfer Plant "yn mynd rhagddo yfory fel y cynlluniwyd tra bod y Bwrdd yn ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth ymhellach".
Fe ychwanegwyd: "Ni allwn ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Cawsom ein hysbysu am 4:30pm heddiw gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru na fydd adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gyhoeddi fory, fel y cynlluniwyd.
“Ni chawsom unrhyw ragrybudd ac ni fu trafodaeth gyda Chyngor Gwynedd am hyn. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl am eglurhad pellach gan y Bwrdd Diogelu.
“Ar ôl disgwyl am yr adroddiad ers cymaint o amser, a pharatoi ar gyfer gweithredu ar y casgliadau a’r argymhellion yn ddi-oed, rydym yn eithriadol o siomedig na fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fory.”