Cyn reolwr yn twyllo £50,000 o feddygfa yng Nghastell Nedd

Castle Surgery, Castell-nedd

Mae cyn reolwr meddygfa yng Nghastell-nedd wedi derbyn gorchymyn i ad-dalu £25,000 ar ôl pledio'n euog i dwyllo’r sefydliad.

Mewn gwrandawiad iawndal yn Llys y Goron Abertawe, fe gafodd Kimberley Wilson, 52 oed, o Stryd Tabernacl, Sgiwen, orchymyn i ad-dalu £5,000 i feddygfa Castle Surgery, mewn taliadau o £200 y mis dros y ddwy flynedd nesaf.

Roedd hyn yn ychwanegol i’r £20,000 yr oedd rhaid iddi ad-dalu ym mis Gorffennaf.

Ym mis Mai, fe blediodd Wilson yn euog i dwyllo drwy gamddefnyddio safle, a mis Awst, fe gafodd ddedfryd o ddwy flynedd o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd.

Roedd Wilson wedi cyfaddef dwyn cyfanswm o £49,213.08 o Castle Surgery, ble’r oedd wedi’i chyflogi rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2023, cyn iddi gael ei hymddiswyddo am gamymddwyn difrifol.

Daw’r achos cyfreithiol yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth-Dwyll y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ar ôl i gyfrifwyr y feddygfa ganfod anghysondebau.

Daeth i’r amlwg fod Wilson yn defnyddio cerdyn banc y feddygfa i brynu nwyddau i’w hun a throsglwyddo arian i’w chyfrif personol gyda chyfeiriadau “blaendaliad” neu “arian mân”.

Yn ddiweddarach, canfuwyd bod Wilson wedi gwario’r arian ar gostau dyddiol ac i dalu am ei harferion gamblo.

Dywedodd Emily Thompson, Arbenigwr Gwrth-dwyll yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru: "Fe wnaeth Wilson gamddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth i ddwyn arian a oedd bod ar gyfer gofal cleifion y GIG.

“Roedd ei gweithredoedd wedi eu sbarduno gan farusrwydd, ac wedi bradychu yn ddifrifol yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddi gan ei chyflogwyr a’i chydweithwyr.

“Mae dedfryd yn anfon neges glir bod dwyn arian o’r GIG yn annerbyniol a bydd yn arwain at ganlyniadau difrifol, gan gynnwys cofnod troseddol.”

Llun: Meddygfa Castle Surgery, Castell-nedd (Google)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.