
'Lle o hyd' i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau
Mae dynes o Wynedd gafodd drawsblaniad yn dweud bod lle o hyd i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau.
Ddegawd yn ôl, fe dderbyniodd Llio Dudley Roberts o Drawsfynydd aren gan ei chwaer ond mae’n debygol y bydd hi angen un arall ymhen rhai blynyddoedd.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae dros 300 o bobl yma yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ar hyn o bryd.
A hithau’n wythnos rhoi organau mae’r gwasanaeth trawsblaniadau o fewn y gwasanaeth iechyd yn annog pobl sydd yn fodlon rhoi i gorfrestru ac i annog sgwrs.
Roedd Llio Dudley Roberts yn y brifysgol pan aeth i deimlo’n sâl ddegawd yn ôl.
Ar ôl mynd i weld y meddyg, daeth i ddeall bod ganddi gyflwr prin FSGS oedd yn achosi i’w harennau fethu a bu’n rhaid derbyn dialysis.
Wedyn daeth yr her o chwilio am rywun fyddai’n fodlon rhoi aren.
“Mi oedd yn rhaid i mi gael aren byw oherwydd mi oedd y cyflwr oedd gen i yn gallu dod yn ôl yn ofnadwy o sydyn mewn aren rhywun oedd wedi marw," meddai wrth Newyddion S4C.
“Natho nhw sôn am y rhestr aros ac mi nath hwnnw boeni fi braidd oherwydd mi oeddwn i wedi clywed am bobl oedd yn disgwyl am fisoedd a blynyddoedd.
“Dwi’n gwybod bod aros... ti jest yn byw i’r ffôn na’n canu."

Ond ar ôl sgwrsio ymhellach gyda meddygon daeth i ddeall y byddai modd derbyn aren gan aelod o’r teulu a dyma chwaer Llio, Ffion yn cynnig.
Ers derbyn aren newydd gan ei chwaer ddeng mlynedd yn ôl mae Llio bellach yn byw bywyd llawn ac yn athrawes ym Mhorthmadog.
Yn ôl ystadegau gan y Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblaniad GIG, mae 338 o bobl yn aros am drawsblaniad yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae dros 200 o bobl hefyd wedi marw yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf.

Yn ôl Kathry Rumbelow sy’n nyrs arbenigol rhoi organau, mae angen gwneud mwy i annog sgwrs.
“Beth sy’n bwysig ac yn gwneud pethau’n haws i bobl os ydi nhw wedi cael y sgwrs yna," meddai.
“A gwybod be yn union ydi’r penderfyniad yna sydd wedi ei wneud a chofrestru’r penderfyniad yna."
Er nad oedd yn rhaid i Llio Dudley Roberts aros ar restr ddeng mlynedd yn ôl, mae’n dweud ei bod hi’n debygol y bydd angen aren arall arni ymhen peth amser ac felly mae'n disgwyl gorfod wynebu hynny y tro nesa.
“Falla tro nesa fydda i’n gorfod mynd ar restr aros," meddai.
“Dwi’n meddwl a jest gobeithio fyddai ddim yn aros yn hir."
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod Cymru ar y blaen o ran eu polisi rhoi organau ond mae'r galwadau i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cofrestru’r awydd yn glir.