Rhybudd i ffermwyr wedi achosion o ddwyn offer amaethyddol yng Ngwynedd a Chonwy
Mae'r heddlu yn rhybuddio ffermwyr yng Ngwynedd a Chonwy i fod yn wyliadwrus yn dilyn achosion o ddwyn offer amaethyddol.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ddydd Mercher bod pedwar achos o ddwyn wedi cael eu hadrodd yn Y Bala a Betws-y-Coed rhwng 21 a 23 Medi.
Mae'r llu bellach yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i ffermwyr yn yr ardaloedd yma i ddiogelu eu hoffer a'u hadeiladau.
Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarth, Iwan Jones: "Rydym yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd unrhyw weithgaredd amheus ger ffermydd neu a welodd gerbydau yn parcio gyda threlars tebyg i rai ffermio yn ystod y nos yn ardal y Bala.
"Byddwn hefyd yn awgrymu bod ffermwyr yn gwirio eu hoffer ac yn cymryd camau i ddiogelu unrhyw siediau neu adeiladau allanol, gan sicrhau bod unrhyw allweddi yn cael eu tynnu oddi ar offer dros nos."
Ychwanegodd: "Rydym yn gofyn i ffermwyr yr ardal i wirio CCTV am unrhyw weithgaredd amheus a ddigwyddodd dros nos."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000785369.