‘Angen i wleidyddiaeth fod yn bwnc craidd i gael mwy o bobl ifanc i bleidleisio’
Mae angen i wleidyddiaeth gael ei dysgu fel pwnc craidd er mwyn annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio, yn ôl cyn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Bowen Cole, 19: “Dyw pobl ifanc ddim yn cael eu dysgu o ran ble, sut a pryd mae pleidleisio.
"Ar hyn o bryd, mae addysg wleidyddol mewn ysgolion yn wael iawn.”
Etholiad y Senedd yn 2021 oedd y tro cyntaf i bobl 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Er bod 70,000 o bobl ifanc yn gwymwys bryd hynny, dim ond 46% ohonyn nhw wnaeth fwrw’u pleidlais.
Meddai Bowen, sydd ar fin mynd i astudio gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow: “Dwi’n teimlo bod gan y llywodraeth rôl i drio annog pobl i bleidleisio - ond mae’r dewis olaf yn dod lawr i’r bobl ifanc eu hunain.
"Yn fy marn i, fe ddyle gwleidyddiaeth fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion - dim byd rhy fanwl, ond o leia’ beth yw gwleidyddiaeth, system bleidleisio a democratiaeth.
"Os ydyn ni eisiau gweld mwy o bobl ifanc yn pleidleisio, mae’n rhaid i addysg wleidyddol wella.”
'Gwella ansawdd'
Bydd etholiad Senedd 2026 yn cael ei gynnal ar Fai 7fed, ac mae Bowen yn gobeithio y bydd rhagor o bobl ifanc yn cymryd diddordeb y tro hwn: “Wrth siarad gyda phobl fy oed i, mae’n amlwg bod lot o bethau sy’n bwysig iddyn nhw, fel iechyd meddwl, cyfleodd gwaith a’r iaith Gymraeg.
"Ac mae’n wych gweld gwleidyddiaeth yn cael mwy o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Ond i fi, allwch chi ddim cael trafodaeth fanwl am wleidyddiaeth arlein.”
Ar hyn o bryd, Cymru a’r Alban y’w unig ddwy wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n caniatáu pobl 16 ac 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig.
Yn ôl Llywodraeth Cymru: “Mae cefnogi dysgwyr i arfer eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o’r cwricwlwm.
"Yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026 a’r etholiadau Llywodraeth Leol yn 2027, byddwn yn parhau i ariannu sefydliadau i ddarparu prosiectau i gynyddu’r addysg ddemocrataidd sydd ar gael mewn ysgolion, ynghyd â gwella ansawdd yr addysg honno”.
Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C, S4C a BBC iPlayer.