Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 75 mlynedd o Wersyll Glan-llyn

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Mae Urdd Gobaith Cymru yn dweud eu bod yn “ymfalchïo” wrth i Wersyll Glan-llyn ddathlu 75 mlynedd ers agor ei drysau am y tro cyntaf. 

Mae’r gwersyll ger Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid wedi denu dros filiwn o bobl ers iddo gael ei sefydlu fel canolfan swyddogol yn 1950. 

Ac erbyn heddiw mae tua 30,000 o wersyllwyr yn ei ymweld bob blwyddyn – gyda’r ganolfan yn cyfrannu tua £3.2 miliwn i economi Gwynedd yn flynyddol. 

Bellach fe fydd gŵyl yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn er mwyn dathlu’r garreg filltir, gydag amrywiaeth o weithgareddau a’r bandiau Eden a Tan yn perfformio’n fyw. 

“Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn wedi rhoi cyfleoedd i genedlaethau o bobl ifanc gael blas ar weithgareddau awyr agored a chymdeithasu yn y Gymraeg, gan gynnwys miloedd o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd, a nifer ohonynt yn profi’r iaith tu allan i’r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae apêl Glan-llyn i blant a phobl ifanc mor gryf ag erioed, ac anelwn at dri chwarter canrif arall o’u croesawu i’r gwersyll i greu atgofion oes.”

Image
Urdd

'Gwireddu gweledigaeth'

Mae cynlluniau mawr ar y gweill wrth i’r Urdd edrych tuag at y dyfodol hefyd, meddai Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn, Mair Edwards. 

“Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn adnewyddu blociau llety, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer canolfan bowlio deg newydd, yn ogystal ag estyniad trawiadol i’r caban bwyta.”

Gyda chefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru, mae’r gwersyll eisoes wedi buddsoddi mewn uwchraddio Canolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr Glan-llyn yn ogystal â thrawsnewid adeilad 150 oed, Glan-llyn Isa’, i lety hunan-arlwyo, meddai’r mudiad. 

Ychwanegodd Ms Edwards: “Byddwn yn parhau i wireddu gweledigaeth y sylfaenydd Syr Ifan i’r dyfodol, gan roi profiadau bythgofiadwy i blant a theuluoedd o Gymru a thu hwnt, a hynny bob amser yn Gymraeg.”

Beth yw'r hanes?

Fe gafodd Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ei agor am y tro cyntaf yn 1950 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd. 

Roedd wedi penderfynu manteisio ar y cyfle i rentu’r adeilad, oedd dan berchnogaeth breifat cyn hynny, er mwyn gwireddu uchelgais o sefydlu gwersyll parhaol yng ngogledd Cymru. 

Fe wnaeth hynny gyda’r nod o groesawu pobl ifanc o bob cwr o’r wlad i gymdeithasu, a phrofi gweithgareddau awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wedi i’r Urdd brynu adeilad Glan-llyn yn swyddogol ym 1964, datblygodd yn ganolfan bwysig ar gyfer ieuenctid Cymru gyda channoedd yn heidio yno ar gyfer y gwersyll haf, a phenwythnosau drwy’r flwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.