Arweinydd Cyngor Sir Conwy yn ymddiswyddo
Bydd arweinydd Cyngor Sir Conwy yn camu i lawr o'i rôl y mis nesaf.
Fe wnaeth cynghorydd Abergele, Charlie McCoubrey, arweinydd Grŵp Annibynnol Cyntaf Conwy, roi gwybod i 55 cynghorydd arall y cyngor am ei benderfyniad mewn cyfarfod nos Fawrth.
Fe ddaeth y cynghorydd McCoubrey yn arweinydd y cyngor ym mis Mai 2021, gan gymryd lle'r cyn-arweinydd Sam Rowlands, sydd bellach yn Aelod o'r Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy: “Cyhoeddodd yr arweinydd, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, ddoe (23 Medi) ei fod yn bwriadu camu i lawr o'r rôl mewn cyfarfod arbennig o'r cyngor ar 8 Hydref 2025.
"Bydd y cyngor nawr yn dechrau'r broses i ethol arweinydd newydd yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig.”
Roedd y cynghorydd McCoubrey, sy’n ddeintydd wedi ymddeol, wedi ymgyrchu yn erbyn fformiwla Llywodraeth Cymru a ddefnyddir i gyfrifo faint o arian a roddir i Gonwy fel rhan o'i setliad llywodraeth leol blynyddol.
Roedd wedi cwyno yn aml am sefyllfa Conwy fesul pen o'r boblogaeth o'i gymharu â chynghorau de Cymru ac awdurdodau cyfagos, Gwynedd a Sir Ddinbych.