Ynyr Roberts yn ennill gwobr gerddoriaeth Brydeinig
Mae'r cerddor a'r cyfansoddwr Ynyr Roberts wedi ennill gwobr AIM- Gwobrau Cerddoriaeth Annibynnol yn Llundain.
Fe gafodd Ynyr, sydd yn gyfrifol am y prosiect pop arbrofol Popeth y wobr am Yr Artist Newydd a Chwaraewyd mwyaf o'i ganeuon.
Mae'r cerddor wedi cydweithio gydag artistiaid eraill fel Kizzy Crawford, Bendigaydfran, Leusa Rhys a Gai Toms a Tara Bandito i ryddhau caneuon pop.
Dyma'r ail waith iddo gael ei enwebu ar gyfer y wobr.
Y cerddorion eraill oedd yn yr un categori ag o oedd Fat Dog, First Time Flyers, IN PARALLEL a NDOTZ.
Wrth siarad ar raglen Heno cyn y seremoni dywedodd Ynyr: "Mae'n golygu cymaint cael y sylw na, sylw Prydeinig mewn ffordd i brosiect sy'n gweithio trwy'r Gymraeg mewn ffordd. Mae'n wefan i gyd yn y Gymraeg, mae bob cân heblaw am un dwi di gweithio arna fo yn y Gymraeg.
"Mae o jest yn anhygoel bod prosiect bach newydd fel yr un dwi'n ymwneud efo fo yn tanio rhywbeth yn Llundain. Mae o jest yn codi diddordeb i gerddoriaeth pop Cymraeg, hwnna sy'n bwysig i fi. "
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio bydd y sylw yn gyfle i gydweithio gyda mwy o gerddorion a chael mwy o gigs yng Nghymru ac o bosib dros y ffin.
Wedi'r newyddion dywedodd wrth Heno:"Dwi'n gegrwth ar y funud. Sgen i ddim geiriau i ddisgrifio pa mor gyffroes ydy hyn. Ma dod i Lundain a dod i ddigwyddiad mor fawreddog yn anhygoel a jest cael y cyfla yna i fynd ar y llwyfan, i ddiolch i bobl yn y Gymraeg ac i sôn bod fi yn dod a hwn yn ôl i Gymru."