Dynes o ogledd Cymru yn arwain tîm i Antarctica er mwyn gwarchod canolfan hanesyddol
Fe fydd dynes o ogledd Cymru yn arwain tîm gwyddonol i Antarctica dros y Nadolig er mwyn gwarchod canolfan hanesyddol rhag effeithiau newid hinsawdd.
Fe fydd Lisa Ford, sy’n arbenigo mewn meddygaeth deithio, yn arwain y tîm o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig y DU er mwyn diogelu Canolfan A, Port Lockroy. Hon yw canolfan wyddonol barhaol gyntaf Prydain ar y cyfandir.
Mae’r alldaith yn rhan o brosiect tair blynedd gan yr ymddiriedolaeth sy'n amddiffyn safleoedd treftadaeth hanesyddol ar Antarctica.
Mae'r ganolfan yn gwasanaethu fel safle treftadaeth dynodedig ac mae'n gartref i swyddfa ac amgueddfa fwyaf deheuol y byd. Mae yna hefyd fwy na 1,000 o bengwiniaid gentoo yno.
Bob blwyddyn mae yna dîm o bobl yno i reoli'r safle. Ond mae eleni yn nodi dechrau pennod newydd meddai'r ymddiriedolaeth gan fod Penrhyn yr Antarctig yn un o'r llefydd sy'n cynhesu gyflymaf yn y byd. O achos hynny mae Port Lockroy hefyd yn dirywio.
Erbyn hyn mae'r safle yn fwy na 80 mlwydd oed. O achos hynny a ffactorau amgylcheddol mae'r adeiladau yn wynebu heriau strwythurol ac angen eu trwsio.
Heriau
Fe fydd tîm Ms Ford wedi'i leoli yn Ynys Goudier am yr ychydig fisoedd nesaf a byddan nhw’n treulio'r Nadolig ar yr ynys sydd yn faint cae pêl-droed.
Yn ogystal â chynnal gwaith cadwraeth, byddan nhw’n rhedeg swyddfa bost, amgueddfa a siop anrhegion fwyaf deheuol y byd, a byddan nhw’n monitro poblogaeth y pengwiniaid.
Bydd y tîm yn wynebu'r heriau o beidio â chael dŵr rhedeg na thoiledau sy’n fflysio, a byddan nhw’n gweithio mewn golau dydd bron yn gyson ac amodau is-sero.
Fe hyfforddodd Ms Ford fel meddyg yn flaenorol ac yna treuliodd lawer o'i bywyd yn teithio ac yn gweithio dramor.Gwnaeth hyfforddiant pellach mewn meddygaeth drofannol a theithio ac yna gweithiodd fel meddyg i'r Arolwg Antarctig Prydeinig.
Mae Ms Ford bellach wedi'i lleoli yng ngogledd Cymru ac mae’n dychwelyd i Borth Lockroy am ei thrydydd tymor yn olynol - y tro hwn fel arweinydd y ganolfan.
Dywedodd: “Alla i ddim aros i fod yn ôl mewn lle rwy’n ei garu, ymhlith y golygfeydd godidog a’r bywyd gwyllt.
“Rwy’n caru symlrwydd bywyd yno, byw a rhannu’r ynys gyda’r pengwiniaid a bywyd gwyllt arall.”