Farage yn gwrthod beirniadu sylwadau Trump am awtistiaeth

Nigel Farage yng Nghymru

Mae Nigel Farage wedi gwrthod dweud bod sylwadau Donald Trump ynglŷn â'r honiad bod cysylltiad rhwng menywod beichiog yn cymryd paracetamol ag awtistiaeth yn rhai anghyfrifol.

Wrth gael ei holi gan y cyflwynydd Nick Ferrari ar orsaf radio LBC os oedd Arlywydd America yn gywir i wneud y cysylltiad rhwng y ddau beth dywedodd Nigel Farage: "Does gen i ddim syniad...fe wnaethon nhw ddweud wrthon ni fod thalidomide yn gyffur saff iawn a doedd o ddim. Pwy a ŵyr, Nick. Dwi ddim yn gwybod."

Ddydd Llun fe ddywedodd Trump bod yna gysylltiad sydd heb ei brofi rhwng y cyffur ac awtistiaeth mewn plant. Dywedodd bod paracetamol "ddim yn dda" ac y dylai menywod beichiog ond gymryd y cyffur os oes ganddynt wres eithafol.

Yn ôl arweinydd Reform UK mae gan Donald Trump "rhyw agwedd arbennig am awtistiaeth. Dwi'n meddwl am fod yna rhywfaint yn ei deulu, mae'n teimlo'r peth i'r byw."

Gwyddoniaeth 'ddim yn ddu a gwyn'

Mae gwneuthurwyr y cyffur paracetamol ac arbenigwyr meddygol wedi condemnio sylwadau Trump. Maent yn dweud fod yr arlywydd wedi "symleiddio" achosion o awtistiaeth a bod tystiolaeth yn dangos bod cymryd paracetamol ddim yn achosi awtistiaeth.  

Pan ofynnwyd i Farage a fyddai yn ochri gyda'r lleisiau hynny sydd yn dweud bod hi'n beryglus i wneud y cysylltiad dywedodd Mr Farage: "Fyswn i ddim. Pan mae'n dod i wyddoniaeth dwi ddim yn ochri gydag unrhyw un.

Dwi ddim yn ochri gydag unrhyw un...achos dyw gwyddoniaeth byth yn ddu a gwyn, ac fe ddylen ni gofio hynny."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.