Gall Wcráin adennill yr holl wlad yn ôl oddi wrth Rwsia medd Trump

Volodymyr Zelensky / Donald Trump
Volodymyr Zelensky / Donald Trump

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi dweud y gall Kyiv "ennill yr holl Wcráin yn ôl yn ei ffurf wreiddiol".

Mae hyn yn nodi newid mawr yn ei safbwynt ar y rhyfel rhnwg Wcráin â Rwsia.

Mewn post ar ei blatfform cyfryngau cymdeithasol Truth Social, dywedodd Mr Trump y gallai Wcráin gael "y ffiniau gwreiddiol yn ôl o ble dechreuodd y rhyfel hwn" gyda chefnogaeth Ewrop a NATO, oherwydd pwysau ar economi Rwsia.

Daeth ei sylwadau ar ôl trafodaethau gydag Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky, a gynhaliwyd ar ôl i Mr Trump annerch Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ddydd Mawrth.

Mae Mr Trump wedi mynegi dro ar ôl tro ei awydd i ddod â'r rhyfel i ben, ond mae wedi rhybuddio o'r blaen y byddai'r broses yn debygol o olygu bod Wcráin yn ildio rhywfaint o diriogaeth.

Mae hyn yn ganlyniad y mae Mr Zelensky wedi'i wrthod yn gyson.

Ychwanegodd Mr Trump y gallai Wcráin "efallai hyd yn oed fynd ymhellach na hynny", ond ni nododd beth yr oedd yn cyfeirio ato.

Dywedodd Trump fod ei safbwynt wedi newid "ar ôl dod i adnabod a deall yn llawn sefyllfa filwrol ac economaidd Wcráin/Rwsia".

"Mae Putin a Rwsia mewn trafferthion economaidd MAWR, a dyma'r amser i Wcráin weithredu," ychwanegodd Mr Trump, gan ddweud bod Rwsia fel "teigr papur".

Newid mawr

Mae Mr Zelensky wedi canmol y "newid mawr" yn safbwynt Mr Trump. Wrth siarad â gohebwyr yn adeilad y Cenhedloedd Unedig, dywedodd ei fod yn deall bod yr Unol Daleithiau yn fodlon rhoi gwarantau diogelwch i Wcráin "ar ôl i'r rhyfel ddod i ben".

Ychwanegodd Mr Zelensky: "Dydw i ddim eisiau dweud celwydd, does gennym ni ddim manylion penodol," ond soniodd am y posibilrwydd o fwy o arfau, amddiffynfeydd awyr a dronau.

Wrth siarad yn ddiweddarach ar Fox News, dywedodd Mr Zelensky fod sylwadau Mr Trump wedi ei synnu ond ei fod wedi'i gymryd fel "arwydd cadarnhaol" y bydd Trump a'r Unol Daleithiau "gyda ni hyd ddiwedd y rhyfel".

"Rwy'n credu bod y ffaith bod Putin wedi bod yn dweud celwydd wrth yr Arlywydd Trump gymaint o weithiau hefyd wedi gwneud gwahaniaeth rhyngom ni," meddai.

Yn gynharach ddydd Mawrth, yn dilyn ei araith i'r Cenhedloedd Unedig, dywedodd Mr Trump hefyd y dylai gwledydd NATO saethu i lawr awyrennau Rwsia sy'n torri eu gofod awyr, yn dilyn cyfres o ymosodiadau diweddar gan awyrennau a dronau Rwsia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.