Ychwanegu geiriau Cymraeg i Eiriadur Rhydychen
Mae gair sy'n Gymreig ei naws wedi ei gynnwys yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen (OED) ar ôl i ddau o Sir Gâr ei ddefnyddio ar raglen deledu Race Across the World.
Roedd Sioned Cray a’i phartner, Fin Gough wedi eu synnu pan nad oedd cynhyrchwyr y rhaglen deledu yn gyfarwydd â’r gair ‘poody’ wedi iddyn nhw ei ddefnyddio yn ystod cyfweliad.
Yn ôl Geiriadur Rhydychen, mae ‘poody’ yn enghraifft o air Cymreig-Saesneg.
Mae hynny’n golygu ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn sgyrsiau iaith Saesneg er ei fod yn hanu o air Cymraeg, sef ‘pwdu’.
Mae’n esiampl o ‘ail-fenthyg’ o un iaith, gan fod pwdu wedi ei fenthyg o’r gair Saesneg ‘pout’, a hynny wedi ei fenthyg yn ôl trwy’r defnydd o ‘poody’.
Cafodd ‘poody’ ei gofnodi am y tro cyntaf yn 1986 pan gafodd ei ddefnyddio er mwyn disgrifio “tymer ddrwg, sur neu bigog.”
Yn ddiweddarach mae wedi cael ei ddefnyddio wrth ddisgrifio hwyliau gwael plant.
Mae ‘na enghreifftiau eraill o eiriau Cymraeg sydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod sgyrsiau Saesneg – neu ‘wedi ei fenthyg’ i’r iaith – sydd bellach yn ymddangos yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen.
Mae'r rheiny’n cynnwys ‘diolch’, ‘nos da’, ‘croeso’ a ‘shwmae’.
Enghreifftiau eraill
Mae enghreifftiau pellach o eiriau Saesneg sydd wedi eu Cymreigio yng nghopi mwyaf ddiweddar Geiriadur Saesneg Rhydychen mis Medi hwn.
Mae’r gair ‘nobbling’ wedi ei gynnwys, sy'n cael ei ddefnyddio gan rai pobl yng Nghymru i ddisgrifio os yw hi'n oer iawn y tu allan.
‘Scram’ yw'r gair arall sydd wedi ei gynnwys sydd yn air sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio achos o grafu drwy ddefnyddio crafangau neu ewinedd.
Mae’r gair hwn yn hanu o ogledd Lloegr yn ystod cyfnod yr 1800au a’r 1900au ond dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio gan bobl o Loegr bellach, meddai’r Geiriadur.