Dani Dyer wedi gadael Strictly ar ôl torri ei ffêr
Mae Dani Dyer wedi gorfod gadael y rhaglen deledu Strictly Come Dancing ar ôl iddi dorri ei ffêr.
Fe ddywedodd Dani, sy'n 29 oed ei bod wedi "glanio yn chwithig" ddydd Gwener a bod sgan wedi cadarnhau ei bod wedi torri ei ffêr ddydd Llun.
Fe ddaw ei hanaf ar ôl iddi gymryd rhan yn lansiad y sioe a gafodd ei ddarlledu nos Sadwrn. Mae'r cystadlu rhwng y parau dawnsio yn cychwyn wythnos yma.
Mewn fideo ar y cyfrwng cymdeithasol Instagram dywedodd ei bod yn "torri ei chalon" ac yn "hollol siomedig".
Roedd Dyer, a ddaeth yn enwog ar ôl ymddangos yn y gyfres Love Island wedi ei pharu gyda'r dawnsiwr proffesiynol Nikita Kuzmin.
Mewn datganiad dywedodd ei bod yn credu mai wedi "rolio" ar ei throed oedd hi ond bod y sgan MRI wedi dangos fel arall.
"Yn ôl bob son dyw gwneud y quickstep ar droed sydd wedi torri ddim yn cael ei gynghori (!) ac mae'r meddygon wedi dweud nad oes gen i hawl i ddawnsio, felly dwi wedi gorfod tynnu allan o'r sioe."
Dywedodd ar Instagram ei bod yn cael "yr amser gorau erioed."
"Mae'n rhywbeth diflas iawn iawn, torcalonnus."
Dani yw'r ail berson erioed i orfod tynnu allan o'r rhaglen Strictly Come Dancing cyn i'r gystadleuaeth ddechrau. Yr actor Kristian Nairn oedd y person arall.