Ymchwiliad i losgi bwriadol ar ôl i dri o dai fynd ar dân ar yr un stryd
Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos posib o losgi bwriadol ar ôl i dri o dai fynd ar dân yn yr un stryd ar yr un noson.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael gwybod am y tanau ar Lôn Hir, Pentre Broughton ger Wrecsam toc wedi 23.00 ar 20 Awst.
Fe gafodd ymchwiliad i gynnau tanau bwriadol ei lansio ar ôl i griwiau tân a swyddogion ddarganfod beth oedd yn debygol o fod yn gyfrifol am y tanau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Hughes: “Rydym yn trin y digwyddiadau fel cynnau tân bwriadol ac mae ymholiadau’n parhau i sefydlu’r amgylchiadau yn iawn.
“Os wnaethoch chi weld beth ddigwyddodd, os wnaethoch chi weld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth bellach, rhowch wybod i ni drwy 101 neu ein gwefan, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000691987.
“Yn ogystal, os oeddech chi’n gyrru yn yr ardal ac mae gennych chi gamera dashfwrdd wedi’i gosod, gwiriwch am luniau a allai gynorthwyo ein hymchwiliad.”