Ceredigion: Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng bws a char
Mae dynes wedi marw a dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws a char yng Ngheredigion.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487, rhwng Plwmp a Synod Inn, tua 10.30, ddydd Gwener, 19 Medi.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Ford Fiesta lliw arian a bws Volvo un llawr.
Cafodd gyrrwr benywaidd y Ford Fiesta ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ond bu farw yn ddiweddarach y noson honno.
Mae perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe wnaeth y teithiwr gwrywaidd yn y Ford Fiesta ddioddef anafiadau difrifol a chafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans lle mae'n parhau mewn cyflwr sefydlog.
Dioddefodd gyrrwr gwrywaidd y bws mân anafiadau ond nid oedd angen triniaeth ysbyty arno.
Roedd yr A487 ar gau tra roedd yr heddlu’n ymchwilio, cyn cael ei hailagor tua 20.35.
Mae swyddogion yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd a allai gefnogi eu hymchwiliad.