Creu cofiant newydd 65 mlynedd ers i'r Beasleys dderbyn y bil treth dwyieithog cyntaf

Llun: Eileen a Trefor Beasley
Eileen a Trefor Beasley

Mae Delyth Prys, merch yr ymgyrchwyr iaith Trefor ac Eileen Beasley yn y broses o ysgrifennu cofiant i’w rhieni, 65 mlynedd ers iddynt dderbyn y llythyr bil treth ddwyieithog cyntaf.

Ar 22 Medi 1960 fe wnaeth Eileen a Trefor Beasley dderbyn y llythyr bil treth ddwyieithog cyntaf yng Nghymru. 

Roedd y ddau yn byw yn Yr Allt, Llangennech rhwng 1952 a 1964. 

Yn ystod y cyfnod hynny fe wnaeth y ddau wrthod talu eu bil treth tan fod llythyrau'r Swyddfa Dreth yn cael eu hysgrifennu’n ddwyieithog.

Ar ôl wyth mlynedd ac 16 achos llys derbyniodd y ddau lythyr treth yn ddwyieithog am y tro cyntaf.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd Delyth fod penderfyniadau ei rhieni yn rhai "greddfol".

“Roedd bil treth gyntaf fy rhieni yn y Saesneg ac roedd fy nhad yn dweud bod dim synnwyr yn hynny," meddai.

"Roedd y cynghorwyr i gyd yn siarad Cymraeg ac roedd 90% o bobl Llangennech yn siaradwyr Cymraeg.

“Wnaeth fy rhieni’r penderfyniad greddfol i beidio talu’r bil treth, er mwyn gofyn am ffurflen y dreth a’r ohebiaeth yn y Gymraeg."

Image
Eileen Beasley gyda'i merch, Delyth a'i mab Eildyr
Eileen Beasley gyda'i merch, Delyth a'i mab Eildyr

Mae Delyth Prys wedi bod yn gweithio i grynhoi deunydd gan ei mam a'i thad er mwyn ysgrifennu cofiant iddynt. 

Dywedodd ei bod hi'n teimlo fod angen i stori ei rhieni gael ei ledaenu ymhellach, sydd un o’r rhesymau mae hi wedi penderfynu ysgrifennu’r cofiant.

Er bod stori ei rhieni wedi lledaenu, o bennill yn gân Dafydd Iwan ‘Wyt ti’n cofio’, i nofel i blant ‘Darn bach o bapur’, roedd Delyth yn teimlo fod angen iddi wneud defnydd o’r atgofion a’r dystiolaeth sydd ganddi.

Mae hyn yn cynnwys cofnod yn nyddiadur ei mam yn nodi fod Cyngor Tref Llanelli wedi penderfynu cyhoeddi ffurflenni treth yn ddwyieithog.

“Ro'n i’n gweld bod dim byd awdurdodol wedi ei gyhoeddi am y cyfnod ac yr ymgyrch, a gan fod lot o’r dystiolaeth gen i, byddai’n well i fi ysgrifennu fe.

“Dyddiadur gydag ambell i ddyddiad ydy e, doedd dim entry am ei bywyd pob dydd. 1957 yw’r cynharaf sydd gyda fi felly ddim yn mynd yn ôl reit i’r dechrau.

“Dwi wedi darllen y dyddiadur o'r blaen, ond tro yma dwi’n trio creu amserlen glir o’r cyfnod yn fy meddwl er mwyn creu’r cofiant."

Bwriad Delyth ydy rhoi darlun clir o ddigwyddiadau’r cyfnod, yr heriau a llwyddiannau a wynebodd Trefor ac Eileen Beasley.

Ei gobaith yw bydd y cofiant yn barod i'w gyhoeddi erbyn haf 2026.

“Fyswn i’n hoffi iddo gael ei gyhoeddi erbyn Eisteddfod yr haf nesaf.

"Ar ôl iddynt ymddeol aeth mam a dad yn ôl i fyw yn Henllan Amgoed, Sir Caerfyrddin, sydd yn ardal yr Eisteddfod. 

"Ond mae yna lot o waith paratoi i wneud cyn hynny, felly gawni weld."

Image
Tŷ'r Beasleys yn Llangennech
Tŷ'r Beasleys yn Llangennech.

Effaith ar y Gymraeg

Ar ôl wyth mlynedd hir o ymgyrchu a sawl achos llys yn eu herbyn, derbyniodd Eileen a Trefor ddau lythyr treth yn ddwyieithog am y tro cyntaf yn 1960, sydd yn cael ei ystyried fel un o drobwyntiau pwysig yn hanes yr iaith Gymraeg.

“Dwi’m yn siŵr bod fy rhieni na chynghorwyr Llanelli yn ymwybodol o beth oedd o’u blaenau, gymerodd e wyth mlynedd i ennill y frwydr," meddai Delyth.

“Roedd y bil treth yn dod dwywaith y flwyddyn, pan oedd pob bil yn cyrraedd bydde nhw yn ysgrifennu yn ôl at y cyngor yn gofyn am un Gymraeg, yna bydden nhw yn cael eu gyrru i’r llys am beidio talu. Yn y diwedd wnaeth y llys gyrru beilïaid i’r tŷ.

"Dwi’n falch o’r ffaith eu bod nhw wedi ymladd yn galed ac wedi dioddef, i mam yn enwedig roedd lot o’r pethau nath y beilïaid gymryd yn anrhegion priodas ac roedd hynny yn anodd iddi."

Magwraeth

Bu farw Trefor Beasley yn 75 oed yn 1994 a'i wraig Eileen Beasley yn 2012, yn 91 oed.

Mae Delyth wedi dilyn esiampl ei rhieni yn ei bywyd bob dydd, ac un ffordd mae'n gwneud hynny yw trwy fod yn aelod gweithredol o Gymdeithas yr Iaith.

Roedd ei magwraeth wedi chwarae rhan enfawr yn ei brwdfrydedd pan mae’n dod i daith a datblygiad yr iaith, meddai.

“Mae materion yr iaith wedi bod yn flaenllaw i fy mywyd i gyd i ddweud y gwir.

“Oedd mam a dad yn wastad yn esbonio pam roedd popeth yn digwydd.

“O'n i’n mynd i gyfarfodydd gwleidyddol a phrotestiadau gyda mam a dad. O'n i’n mwynhau bod yn rhan o’r peth."

Drwy weithredu, fe wnaeth Eileen a Trefor nid yn unig sicrhau eu bod yn derbyn ffurflen dreth ddwyieithog, ond hefyd cyfrannu at sefydlu’r frwydr iaith yng Nghymru yn y degawdau i ddilyn.

“Oedd y ffordd nath Saunders Lewis gymryd esiampl mam a dad yn dynged yr iaith yn 1962, dwy flynedd ar ôl i mam a dad ennill y frwydr, fel ymgyrch ddi-drais, torcyfraith ond heddychlon, yn pwysleisio’r effaith cafon nhw.

“Fysa mam a dad yn hapus iawn i weld sut mae pethau wedi datblygu gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, a sut mae’r ddeddf iaith wedi dod a pholisi fel bod popeth cyhoeddus yn ddwyieithog. 

"Roedd y rhain i gyd yn bethau roedden nhw yn gofyn amdanyn nhw yn yr 1950au."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.