Cooper yn rhybuddio Israel i beidio meddiannu mwy o'r Lan Orllewinol

Yvette Cooper yn cyrraedd Stryd Downing

Mae Ysgrifennydd tramor Llywodraeth y DU wedi rhybuddio Israel i beidio ychwanegu rhannau o'r Lan Orllewinol at ei thiriogaeth.

Daw sylwadau Yvette Cooper mewn cyfweliad gyda'r BBC ar ôl i Brydain gyhoeddi ddydd Sul y byddan nhw yn cydnabod gwladwriaeth Balasteinaidd yn ffurfiol.

Fe wnaeth Canada, Awstralia a Phortiwgal hefyd gyhoeddi'r un peth ac mae disgwyl i Ffrainc ddilyn yr un trywydd ddydd Llun.

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi condemnio'r cyhoeddiad gan ddweud eu bod yn "gwobrwyo terfysgwyr".

Rhybuddio bod cydnabod Palasteina fel gwladwriaeth yn peryglu'r ymdrechion i ryddhau'r gwystlon a gafodd eu cipio yn ystod yr ymosodiad ar 7 o Hydref mae eu teuluoedd. 

Mae Yvette Cooper wedi dweud na ddylai Israel gymryd mwy o dir o'r Lan Orllewinol.

Dywedodd wrth y BBC: "Mae hyn yn ymwneud gydag amddiffyn heddwch a chyfiawnder ac yn hanfodol diogelwch yn y Dwyrain Canol ac fe fyddwn ni yn parhau i weithio gyda phawb ar draws y rhanbarth er mwyn medru gwneud hynny."

Ychwanegodd bod yna eithafwyr ar y ddwy ochr sydd eisiau hepgor y syniad o ddwy wladwriaeth ond bod Prydain yn awyddus i fwrw ymlaen gyda'r syniad yma.

Mae'r ysgrifennydd tramor yn Efrog Newydd ar hyn o bryd am fod cyfarfod cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yno.

Y disgwyl yw y bydd Cooper yn gwthio i gael consensws rhyngwladol ynglŷn â chynllun am heddwch yn y Dwyrain Canol. 

Yn ôl y Swyddfa Dramor un agwedd o hyn fydd sicrhau na fydd Hamas yn chwarae rôl yn unrhyw lywodraethiant o wladwriaeth Balasteinaidd yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Palasteina yn cael ei chydnabod fel gwladwriaeth gan tua 75% o aelodau'r Cenhedloedd Unedig. Ond yn ôl llawer gweithred symbolaidd yw hyn gan nad oes ganddi brifddinas na byddin. 
 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.