Charlie Kirk yn 'ferthyr' medd Trump yn ystod y gwasanaeth coffa

Gwasanaeth coffa Charlie Kirk

Mae Donald Trump wedi dweud y bydd Charlie Kirk yn cael ei gofio fel "merthyr" ac "arwr gwych Americanaidd".

Roedd yn siarad yn ystod gwasanaeth coffa Charlie Kirk yn Arizona lle y gwnaeth degau o filoedd o bobl ddod at ei gilydd.

Cafodd Charlie Kirk ei lofruddio ar y 10fed o Fedi.

Roedd Charlie Kirk yn gefnogwr brwd o wleidyddiaeth a syniadaeth Trump o'r slogan Make America Great Again. Roedd yn o'r ffigyrau Ceidwadol amlycaf yn yr UDA. Yn 18 oed fe sefydlodd Turning Point USA - mudiad Ceidwadol gyda'r bwriad o rannu syniadaeth asgell dde ar draws prifysgolion rhyddfrydol y wlad.

Roedd nifer o wleidyddion Gweriniaethol amlwg yn y gwasanaeth gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol Marco Rubio a'r Ysgrifennydd Iechyd Robert F Kennedy Jr. Roedd yna hefyd aelodau o'r grŵp Turning Point USA.

Mae Tyler Robinson, 22 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Charlie Kirk.

Wrth annerch y dorf dywedodd Arlywydd America: "Cafodd ei lofruddio am ei fod wedi byw yn ddewr, fe wnaeth o fyw yn fentrus ac roedd yn dadlau yn wych." 

'Dim mwy o gasineb'

Fe wnaeth gwraig Charlie Kirk, Erika hefyd siarad yn ystod y gwasanaeth coffa. Dywedodd yn ei dagrau ei bod yn maddau i'r person honedig wnaeth ladd ei gwr.

"Roedd fy ngŵr i Charlie, eisiau achub dynion ifanc, yn union fel yr un wnaeth gymryd ei fywyd o...Dwi'n maddau iddo am mai dyna wnaeth Crist. Dim yr ateb i gasineb yw mwy o gasineb."

Yn ystod y gwasanaeth fe wnaeth nifer o'r siaradwyr bwysleisio'r angen i barhau gyda'i waith a'i ffydd. Roedd caneuon gan grwpiau Cristnogol a gweddïau.

Dywedodd nifer y bydd ei farwolaeth yn atgyfnerthu'r mudiad Ceidwadol yn America.

Yn ystod ei araith dywedodd Donald Trump: "Mae'n ferthyr nawr ar gyfer rhyddid America. Dwi'n gwybod fy mod i yn siarad ar gyfer pawb yma heddiw pan dwi'n dweud na fydd neb ohonom ni byth yn anghofio Charlie. A nawr fydd hanes ddim yn ei anghofio chwaith."  

Roedd yn ffigwr dadleuol gyda'i sylwadau am hil a throsedd yn aml yn cael eu beirniadu gan rhai mwy rhyddfrydig yn wleidyddol. Roedd yn gwrthwynebu erthyliad, o blaid gynau ac yn erbyn rhoi hawliau i bobl trawsryweddol. 

 

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.