Disgwyl i’r teulu Murdoch brynu TikTok
Mae disgwyl y bydd teulu Rupert Murdoch yn rhan o grŵp o fuddsoddwyr sydd am brynu'r cyfrwng cymdeithasol TikTok.
Mewn cyfweliad ar sianel deledu Fox News, ddydd Sadwrn dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump bod “dyn o’r enw Lachlan” yn rhan o’r cytundeb a “Rupert yn rhan o’r grŵp”.
“Rydw i’n meddwl eu bod nhw am wneud gwaith da,” meddai gan ychwanegu eu bod nhw’n “wladgarwyr Americanaidd”.
Mae Lachlan, a gafodd ei eni ym Mhrydain, yn fab i’r dyn busnes Rupert Murdoch, o Awstralia, ac wedi olynu ei dad fel cadeirydd Fox Corporation ac News Corp.
Mae News Corp yn berchen ar The Wall Street Journal, tra bod Fox Corporation yn berchen ar Fox News, gwasanaethau newyddion sydd ag agwedd adain dde.
Pasiodd Cyngres yr Unol Daleithiau ddeddf ym mis Ebrill 2024 a fyddai'n gwahardd yr ap oni bai bod ei gwmni rhiant Tsieineaidd ByteDance yn gwerthu i gwmni yn yr Unol Daleithiau.
Roedd ofnau y gallai Beijing gael mynediad at ddata personol 170 miliwn o ddefnyddwyr Americanaidd TikTok.
Dywedodd Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt, dydd Sadwrn y gallai cytundeb gael ei lofnodi "yn y dyddiau nesaf".