Cymeradwyo ail lain lanio ym maes awyr Gatwick
Mae cynlluniau i gael ail lain glanio newydd ym maes Awyr Gatwick wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
£2.2 biliwn fydd y gost sydd yn arian preifat a bydd y gwaith yn golygu symud llain lanio gul sydd yno ar hyn o bryd ar gyfer argyfyngau 12 metr tua'r gogledd.
Bydd symud y llain yn golygu y bydd awyrennau mwy cul fel Airbus A320s a Boeing 737s yn medru ei defnyddio.
Y gred yw bydd tua 100,000 o awyrennau yn medru defnyddio'r llain bob blwyddyn.
Yn ôl y Canghellor, Rachel Reeves mae'r cyhoeddiad yn golygu bod cyfle i "ail gychwyn" yr economi.
“Mae ail lain glanio yn Gatwick yn golygu miloedd yn fwy o swyddi a biliynau yn fwy o fuddsoddiad yn ein heconomi," meddai.
'Nonsens'
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Cabinet, Heidi Alexander, wedi cymeradwyo'r cynllun ar ôl i'r maes awyr wneud newidiadau i'w cynlluniau gwreiddiol.
Ymhlith y newidiadau mae cymryd camau i leihau sŵn ac edrych ar nifer y teithwyr fyddai yn teithio i ac o'r maes awyr trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Daw hyn ar ôl i Arolygwyr Cynllunio yn wreiddiol wrthod y cynlluniau gan ddweud y gallai Ms Alexander eu cymeradwyo os byddai yna newidiadau yn cael eu gwneud.
Ond mae yna wrthwynebiad wedi bod i'r llain lanio newydd gyda'r Blaid Werdd yn dweud ei fod yn "drychineb".
"Mae'r blaid Lafur yn parhau i ail adrodd yr un hen nonsens am dyfiant ond ar ba gost? Yr hyn mae hyn y golygu go iawn yw mwy o lygredd, mwy o sŵn i'r cymunedau lleol a dim gwir fudd economaidd," meddai arweinydd y blaid, Zack Polanski.
Mae Cagne, grŵp ymbarél amgylcheddol a chymunedol ar gyfer Sussex, Surrey a Caint wedi dweud eu bod yn barod i wneud cais am adolygiad barnwrol.
Llun: Gareth Fuller/PA Wire