Galw am brofion cynt i fenywod sydd â hanes teuluol o ganser y fron

Galw am brofion cynt i fenywod sydd â hanes teuluol o ganser y fron

Mae menyw 39 oed a gafodd ddiagnosis o ganser y fron y llynedd yn galw am gyflymu’r broses o gael atgyfeiriad brys os oes yna hanes cryf o’r canser yn y teulu. 

Yn wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn Sir Fynwy, fe gafodd Lisa Haf Davies, 39 oed, ddiagnosis o ganser y fron math negyddol triphlyg ym mis Medi y llynedd. 

Mae gan Lisa hanes teuluol o ganser y fron, gyda'i Mam, ei chwaer a'i chyfneither hefyd wedi derbyn diagnosis. 

Wedi iddi deimlo lwmp yn ei bron yn y gawod ym mis Gorffennaf y llynedd, fe aeth Lisa at ei meddyg teulu y diwrnod hwnnw, a llwyddo i gael apwyntiad. 

"Ma’n chwaer i, o’dd hi ‘di cael diagnosis o ganser y fron, nath fy nghyfneither i cyn fi hefyd gael diagnosis o ganser y fron, so o’n i‘n eitha’ ymwybodol bod gyda ni hanes teulu cryf iawn o ganser y fron yn y teulu, gyda mam wedi cael canser y fron hefyd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fi'n credu achos y sefyllfa gyda'r teulu, es i at y meddyg teulu yn syth y diwrnod yna."

Fe gafodd chwaer Lisa, y gyflwynwraig Mari Grug, ddiagnosis o ganser y fron yn 2023.

Image
Lisa a'i chwaer, Mari.
Lisa a'i chwaer, Mari.

Fe wnaeth y meddyg teulu ddarbwyllo Lisa i beidio â phoeni gan ei bod yn "ifanc ac yn iach", ac fe gafodd Lisa atgyfeiriad at Uned y Fron, ac y byddai'n cael gwybod am hynny yn y post. 

Tua thair wythnos wedyn, fe dderbyniodd Lisa lythyr drwy'r post, ac fe gafodd apwyntiad yn ei hysbyty lleol, lle cafodd wybod y byddai'n cael llythyr yn ddiweddarach gyda'r canlyniad.

"Y pumed o Fedi wedyn, oedd gen i'r apwyntiad so o'n i wedi cael dipyn o sioc pan nes i ddarganfod mai canser oedd y diagnosis," meddai. 

"Fy ymateb cynta' i oedd fy mod i'n eitha crac achos o'n i'n teimlo bo' fi ddim wedi cael fy mharatoi ar gyfer y newyddion yna."

Wedi iddi gael y diagnosis ddechrau Medi, fe gafodd Lisa nifer o brofion wedyn, gan ddarganfod fod ganddi ganser y fron math negyddol triphlyg. 

Mae'r math yma o ganser y fron yn llai cyffredin, ond yn ymosodol iawn, gyda thua 15% o bob math o ganser y fron yn fath negyddol triphlyg yn ôl elusen Breast Cancer Now. 

Image
Lisa
Fe deimlodd Lisa lwmp ym mis Gorffennaf 2024.

Mae ymchwil hefyd yn dangos fod y risg o'r math hwn o ganser yn dychwelyd neu yn lledaenu yn y blynyddoedd cyntaf yn uwch na mathau eraill o ganser y fron.

Mae'r math yma o ganser y fron hefyd yn un sy'n gysylltiedig gyda mwtaniad genynnau (gene mutation), er enghraifft genyn BRCA.

"Yn ein teulu ni, ma' fy chwaer i Mari, a fi, yn cario variation mewn gene gwahanol o'r enw RAD51D," meddai Lisa. 

"Mae e'n un o'r genes mwyaf newydd ma' nhw'n profi amdano fe, ond mae e yn gysylltiedig gyda risg uwch o ganser y fron ac ovarian cancer hefyd."

Ychwanegodd: "Yn gw'bod hynna i gyd, ac yn gw'bod bod y math o ganser oedd gyda fi yn un ymosodol iawn, ag i fod yn onesd, o'n i'n gallu teimlo'r lwmpyn yn tyfu.

"Yr wythnosau 'na ym mis Medi ar ôl cael y diagnosis ond cyn dechre triniaeth cemotherapi, o'dd nhw'n wythnose rili, rili anodd achos o'n i'n gallu teimlo fe'n tyfu...o'n i jyst yn ysu cael dechre'r driniaeth er mwyn cael neud rwbeth am y broblem."

Image
Lisa
Fe gafodd Lisa 16 rownd o driniaeth cemotherapi cyn wynebu llawdriniaeth. 

Mae Lisa yn awyddus i leihau'r amseroedd aros rhwng teimlo lwmp, derbyn diagnosis a dechrau triniaeth.

"Fi’n gw’bod bod ‘na dargedau gyda’r Llywodraeth o ran sicrhau bod pobl yn dechre triniaeth o fewn terfyn amser i ban maen nhw’n cael y diagnosis.

"Ond pan fi’n meddwl am nes i ffeindio lwmp fi diwedd mis Gorffennaf ag oedd hi’n ganol mis Hydref arna i yn dechre cemotherapi, yn yr amser yna i gyd, oedd y lwmpyn yn tyfu, ag o’n i’n gallu teimlo fe’n tyfu felly fydden i’n licio gweld yr amseroedd yna yn cwtogi fel bod pobl ddim yn gorfod aros wythnose." 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C eu bod yn "canolbwyntio’n llwyr ar weithio gyda’r GIG i wella darpariaeth gwasanaethau canser, gyda mynediad cynharach at ddiagnosis a thriniaeth."

Ychwanegodd Lisa: "O edrych nôl, bydden i wedi hoffi tase y meddyg teulu wedi cymryd y peth yn fwy o ddifri, a wedi falle referrio fi am apwyntiad brys yn enwedig o ystyried beth oedd y cefndir teuluol, a bod gyda ni hanes teulu cryf iawn o ganser y fron yn y teulu, gyda Mam wedi cael canser y fron hefyd."

Fe ddywedodd meddygfa meddyg teulu Lisa Haf Davies wrth Newyddion S4C nad oedden nhw yn gallu gwneud sylw ar gleifion unigol yn sgil rheolau cyfrinachedd. 

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae’n ddrwg iawn gennym glywed am brofiad a diagnosis Lisa.

“Byddem yn annog Lisa i gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy ein tîm Rhoi Pethau’n Iawn fel y gallwn ymchwilio i unrhyw bryderon ynghylch y gofal y mae wedi’i dderbyn.”

Image
Mari, Lisa ac Elin
Lisa (yn y canol) gyda'i chwiorydd Mari (ar y chwith) ac Elin (ar y dde).

Gyda hanes amlwg o ganser y fron yn ei theulu, ac yn sgil diagnosis Mari ei chwaer, roedd Lisa a'i chwaer hŷn, Elin, yn cael eu profi i weld os oedd ganddyn nhw yr un mwtaniad genynnol.

"O'dd e'n rhyfedd achos o'n i yn y broses o gael y prawf gwaed yna wedi ei gymryd pan nes i ffeindio'r lwmpyn," meddai Lisa. 

"Pan na’th Mari gael ei diagnosis yn y lle cynta, fi’n cofio mynd at y  meddyg teulu bryd ‘ny, i weld os oedd rwbeth allen i ei wneud i leihau fy risg i, a ‘dyn nhw ddim yn cynnig mammograms i ferched dan 40 yn anffodus, achos dyw e ddim yn ffordd effeithiol o ddarganfod unrhyw beth."

Yn ôl Pennaeth Ymchwil Canser Cymru, Dr Lee Campbell, mae gan sgrinio genetig "rôl bwysig i'w chwarae yn enwedig ymysg merched â hanes teuluol cryf o ganser y fron."

"Dylai merched sy'n teimlo y byddan nhw'n elwa o brofion genetig ar sail hanes teuluol gysylltu yn gyntaf gyda meddyg teulu a thrafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw," meddai wrth Newyddion S4C.

"Wedi profion genetig a chwnsela, fe fydd apwyntiad yn cael ei wneud wedyn gyda Bron Brawf Cymru ar gyfer sgrinio o dan yr oed o 50, os mai'r gred yw y byddai hynny yn fuddiol i'r unigolyn. Ond mae'n rhaid i'r broses ddechrau gydag apwyntiad â'r meddyg teulu."

Image
Lisa gyda'i phartner Alex, a'u plant, James a Nel.
Lisa gyda'i phartner Alex, a'u plant, James a Nel.

Yn y DU, mae merched sydd yn 50 oed neu yn hŷn yn cael eu gwahodd i fynd am mammogram gyda'u meddyg teulu bob tair blynedd, tan eu bod nhw yn 71 oed. 

Yn gyffredinol, nid yw merched o dan 50 oed yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio, a hynny oherwydd fod y nifer o ferched o dan yr oedran yma sy'n derbyn diagnosis yn sylweddol is, yn ôl Breast Cancer Now. 

Mae gan ferched iau feinwe'r fron fwy dwys, sy'n gallu gwneud y sgan pelydr-x yn llai clir ac yn anoddach i'w ddarllen hefyd.

Ond gyda hithau a'i chwaer wedi derbyn diagnosis yn iau na 40 oed, mae Lisa yn awyddus i gael ryw fath o sgrinio ar gyfer merched iau. 

"Licen i weld bod rhywbeth ar gael i ferched ifancach. Bydden i’n licio gweld yr oedran sgrinio neu bod ryw fath o broses effeithiol yn cael ei datblygu i bobl ifanc achos yn anffodus, mae e jyst yn rhy gyffredin," meddai.

"Bydden i jyst yn licio bod ffordd bod ni'n gallu ffeindio mas, neu jyst lleihau'r risg o ddatblygu canser, yn yr un ffordd â ma'r mammograms routine ar gael ar gyfer pobl sy'n troi'n 50.

"Fi'n teimlo fel o'n i'n eitha proactive, yn neud beth o'n i'n gallu neud." 

Ychwanegodd Dr Lee Campbell: "Er fod canser y fron yn anghyffredin ymysg merched o dan 50, mae'n gallu digwydd yn anffodus, a dylai unrhyw symptomau sy'n awgrymu canser y fron gael eu harchwilio. Ni ddylai oedran dynes fod yn sail i ddiystyru canser y fron, hyd yn oed os ydy'r symptomau ymysg merched o dan yr oed o 50.

"Mae'n well bod yn saff na peri'r risg o adael pethau yn rhy hwyr, pan mae'r clefyd yn llawer anoddach i'w drin yn llwyddiannus."

Image
Lisa
Fe gafodd Lisa lawdriniaeth i godi'r ddwy fron.

Fe gafodd canser Lisa ei ddarganfod yn gynnar, ac nid oedd wedi lledaenu.

"Ma’ canser y fron triple negative, hwn yw’r un sydd yn effeithio merched ifanc a ma’ fe’n ganser aggressive iawn, a does dim gymaint o driniaethau ar gyfer hwn felly mae e jyst mor bwysig i  ‘nabod eich corff chi, sylwi ar unrhyw wahaniaethe," meddai. 

"Chi sy’n ‘nabod eich corff eich hunain, a ma’ jyst lot gwell pusho a bod ar yr ochr saff na cymryd cam nôl."

Fe gafodd Lisa driniaeth cemotherapi cyn y llawdriniaeth, gan gael 16 rownd a ddechreuodd ym mis Hydref, a thriniaeth bob wythnos tan y Nadolig, a chemotherapi unwaith bob tair wythnos ar ôl y Nadolig. 

Ym mis Ebrill eleni, fe gafodd lawdriniaeth mastectomi i godi'r ddwy fron, ac mae ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth imiwnotherapi a fydd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.

"O'dd y tiwmor gyda fi yn y fron chwith, ond oherwydd bo' fi wedi ffeindio mas bod y genyn RAD51D mutation gyda fi hefyd, nes i benderfynu cael risk-reducing surgery ar y fron dde hefyd," meddai.

"Ers hynna, fi 'di bod yn gwella, a ma' fe mor neis teimlo yn iach eto."

Image
Lisa
Fe fydd triniaeth Lisa yn dod i ben ym mis Rhagfyr.

Mae Lisa mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth y mae hi wedi ei dderbyn.

"Alla i ddim gweud gair gwael amdano fe, ma'r meddygon wedi bod yn ffantastig, y gwasanaethau sydd 'di bod ar gael i gefnogi a wedyn teulu a ffrindie hefyd. 

"O'dd gwynebu diagnosis gyda dau o blant bach yn anodd, o'dd James yn bump a Nel yn ddwy, a bywyd teuluol yn brysur iawn, iawn, felly heb gefnogaeth teulu a ffrindie, bydden i ddim wedi gallu copan rili.

"O’n i jyst wir yn becso, yn enwedig gyda Nel mor fach, oedd hi’n ddwy, oedd hi angen Mam gymaint, felly o’dd e’n rili, rili anodd, ag oedd hwnna yn poeni fi yn fwy nag unrhyw beth arall, rili."

Image
Lisa
Fe fydd Lisa yn rhedeg hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref.

Fe fydd Lisa yn rhedeg hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref, gan godi arian tuag at Ymchwil Canser Cymru. 

"Yr eironi rili, o'n i'n trainio ar gyfer marathon Eryri pan ges i'r diagnosis, o'n i wedi penderfynu ei redeg i godi arian at Ymchwil Canser Cymru gan bod canser wedi effeithio ar ein teulu," meddai. 

"Yng nghanol yr hyfforddi, daeth y diagnosis, ac o'n i yng nghanol cemotherapi pan oedd y marathon yn digwydd.

"Erbyn hyn, fi'n teimlo'n dda eto...fi'n credu bod e jyst mor bwysig i barhau i ymchwilio a chodi arian ar gyfer yr ymchwil sydd yn mynd mewn i'r triniaethau achos yn ffodus iawn, ma' 'na lot o wahanol driniaethau ar gael ond licen i bydde 'na cure yn cael ei ffeindio.

"Fi'n credu bydda i'n codi arian tra fydda i i sicrhau bod pobl erill ddim yn gorfod mynd trwyddo hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.