Gwario £2 miliwn ar ganolfan sydd heb ei chwblhau i droseddwyr benywaidd
Nid yw cynllun i agor canolfan breswyl i droseddwyr benywaidd yn Abertawe wedi gweld golau dydd, er bod dros £2m o bunnoedd wedi ei wario arno.
Roedd disgwyl i Ganolfan Breswyl Menywod Abertawe yn ardal y Cocyd agor ym mis Ionawr 2025 gyda’r bwriad o gefnogi 50 o droseddwyr.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod cyllid ar gyfer y ganolfan wedi cael ei ail-flaenoriaethu yn 2022/23 ac maent yn y broses o benderfynu ar y camau nesaf.
Does yna ddim un carchar i fenywod yn unig yn bodoli yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn bryderus am yr oedi wrth agor y ganolfan oedd i fod yn gam ymlaen i fynd i’r afael â chyfiawnder benywaidd.
Gwariant
Mae Cais Rhyddid Gybodaeth gan ITV Cymru i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgelu bod £2,190,325 wedi cael ei wario gan ar y cynllun hyd yn hyn allan o bot o arian gwerth £10 miliwn a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2018.
Mae Danielle John, 44, o Abertawe yn rhedeg prosiect sy’n helpu menywod sydd â phrofiad o’r system gyfiawnder troseddol ar ol iddi dreulio 20 mlynedd i mewn ac allan o garchardai am droseddau lefel-isel.
“Ges i blentyndod chaotic,” meddai wrth ITV Cymru, gan esbonio bod digwyddiad yn ei harddegau wedi chwalu ei theulu.
Arweiniodd hyn ati i symud i fyw ar ei phen ei hun a’i harwain i fyd lle dechreuodd droseddu yn ifanc.
“Ro ni yn y carchar erbyn o ni’n 16 oed. Ar ôl hynny, ro’dd gen i broblemau gyda dibyniaeth, ac o ni mewn a mas o’r carchar am gyfnod o 20 mlynedd.”
‘Menywod yn cael eu gadael i lawr’
Dywedodd Ms John bod menywod yn Nghymru sydd yn treulio amser mewn carchardai yn cael eu gadael lawr, ac mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd yn ei le i’w hatal rhag aildroseddu.
Mae hi’n siomedig nad yw’r cynlluniau i agor y ganolfan breswyl wedi mynd yn eu blaen.
“Pan rwyt ti ar deddfryd tymor-byr, ti ddim yn cael y gefnogaeth, dwyt ti’m yn y carchar am yn ddigon hir i adeiladu perthynas gyda gweithwyr allweddol er mwyn cael cymorth yn ei le pan chi’n dod nôl i Gymru.
“Ti’n cael dy ryddhau o’r carchar - fel arfer gyda dim ond apwyntiad probation - a dim byd arall yn ei le. Felly pan ti’n dod nôl i Gymru, mae dy fywyd yn llanast, a ti fel arfer yn dychwelyd i’r bywyd roedde ti’n fyw pan nes ‘di droseddu yn y lle cyntaf.”
‘Poeni pobl leol’
Fe wnaeth trigolion y Cocyd sy’n byw gyferbyn a’r ganolfan wrthwynebu agor y safle ar y sail ei fod yn anaddas i fenywod oedd yn mynd drwy’r broses o adsefydlu oherwydd ei fod mewn lleoliad cymharol wledig, gyda chysylltiadau gwael, a gyda thafarn ac ysgol gerllaw.
Un sy’n byw’n agos i’r safle yw Dennise Avery, sy’n dweud ei bod yn cefnogi'r angen am ganolfan i fenywod ond sy’n credu bod angen safle gwell i warchod menywod bregus a thrigolion lleol.
“Mae’n poeni pobl leol,” dywedodd Ms Avery.
Ar hyn o bryd mae menywod o dde Cymru yn cael eu hanfon i HMP Eastwood Park yn Sir Gaerloyw, sy’n bedair awr o daith o Abertawe ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl ffigyrau gan Brifysgol Caerdydd o 2018 - mae menywod o Gymru sydd mewn carchardai yn byw ar gyfartaledd rhyw 101 o filltiroedd o’u cartrefi, o gymharu gyda 53 o filltiroedd i ddynion.
Mae elusennau sy’n cefnogi menywod bregus yn dweud bod hyn yn cael effaith ddinistriol ar garcharorion benywaidd a’u teuluoedd ac mae Cymorth i Ferched Cymru wedi disgrifio methiant i agor y ganolfan yn Abertawe fel peth “siomedig iawn”.
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod yn y broses o ystyried y camau nesaf ar gyfer y ganolfan yn Abertawe.
Dywedodd llefarydd: “Dyw’r system garchardai mae’r llywodraeth yma wedi ei hetifeddu ddim yn gweithio i fenywod. Dyma pan rydym wedi lawnsio Bwrdd Cyfiawnder Menwyod i gynghori ar sut i leihau nifer y menywod sydd yn y ddalfa ac i edrych ar ffyrdd o roi cefnogaeth well i fenwyod yn y gymuned.
“Mae canolfanau i fenywod wedi dangos canlyniadau addawol wrth leihau troseddu, ac rydym yn parhau i edrych ar opsiynau ar gyfer creu canolfan o’i fath yn Abertawe.”
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud eu bod yn rhannu’r pryderon ynglyn â’r oedi wrth agor y safle, ac y byddant yn parhau i ddadlau o blaid ei hagor.