Môn: Dod o hyd i werth miloedd o bunnoedd o gyffuriau
Fe ddaeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru o hyd i swm sylweddol o gyffuriau yn dilyn nifer o gyrchoedd ar Ynys Môn yr wythnos hon.
Fe dderbyniodd swyddogion warantau er mwyn cynnal cyrchoedd mewn tai yn Llangefni, y Gaerwen a Chaergybi.
Daeth swyddogion o hyd y arian a chyffuriau yn ystod y cyrchoedd.
Y gred yw bod gwerth £10-15,000 o gyffuriau wedi’u darganfod yn y cyrchoedd ar yr ynys.
