Cynghorwyr Sir Ddinbych yn gwrthod cefnogi parc cenedlaethol newydd
Mae cynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi gwrthod rhoi eu cefnogaeth i gynllun ar gyfer parc cenedlaethol newydd yn y gogledd ddwyrain.
Mewn cyfarfod arbennig ym mhencadlys y cyngor yn Neuadd y Sir yn Rhuthun, cafodd y cynghorwyr y dasg o lunio ymateb drafft i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Barc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr.
Mae CNC wedi cael y dasg o edrych ar sut y gellid creu parc cenedlaethol o fewn Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Byddai tua 46% o arwynebedd tir Sir Ddinbych a 13% o'i phoblogaeth o fewn ffin arfaethedig Parc Cenedlaethol Glyndŵr os caiff ei greu.
Byddai'r parc arfaethedig hefyd yn ymestyn o Sir Ddinbych i Sir y Fflint a Wrecsam.
Hwn fyddai'r pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru - a'r cyntaf ers 1957.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod parciau cenedlaethol yn helpu twristiaeth, yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a'r amgylchedd.
Ystyriaeth
Penderfynodd cynghorwyr beidio â chefnogi'r cynnig, gyda sawl aelod yn honni nad oedd y cynlluniau wedi'u hystyried yn llawn.
Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, fod y cynghorwyr yn gwrthod cymeradwyo y parc cenedlaethol, gan fynd yn groes i argymhelliad swyddogion y cyngor, cyn i'r cabinet ystyried y mater yn ddiweddarach.
Roedd gan y Cynghorydd Hilditch-Roberts bryder fod deddfwriaeth gynllunio llymach parciau cenedlaethol, ynghyd â seilwaith a chronfeydd annigonol, yn golygu na allai'r cyngor gefnogi'r cynlluniau.
"Pam y byddem ni eisiau rhoi mwy o bwysau arnom ni ein hunain trwy ddod â 100,000 o ymwelwyr yn fwy i Sir Ddinbych pan nad yw ein seilwaith yn ddigon cadarn i'w drin," meddai.
“Ein blaenoriaethau ni yw pobl Sir Ddinbych, a dylem ni fod yn eu rhoi nhw yn gyntaf – 100,000 o bobl, ond rydym ni’n cau toiledau.
“I ble fyddan nhw’n mynd i doiledau pan fyddan nhw wedi parcio ar ochr y ffordd yn y lleoedd hyn? Mae’n broblem enfawr.”
Cwestiynodd y Cynghorydd Hugh Evans werth parc cenedlaethol pan fod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol eisoes yn bodoli yn y sir.
Ymgysylltu
Dywedodd y Cynghorydd Evans fod yr ymgynghoriad wedi’i reoli, a gofynnodd pam nad oedd CNC wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â chynghorau tref a chymuned.
“Maen nhw wedi cael eu gadael allan,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Evans hefyd y gallai prisiau tai'r sir gynyddu mewn parc cenedlaethol newydd, gyda’r Cynghorydd Jon Harland yn dweud y gallai parc cenedlaethol greu “maes chwarae i filiwnyddion”.
Pleidleisiodd y cyngor i wrthod y cynnig ar gyfer y parc cenedlaethol nes bod mwy o eglurder ar gael ac awgrymodd y dylid gohirio'r mater tan ar ôl Etholiadau'r Senedd yn 2026 pan allai fod mwy o sicrwydd ynghylch cyllid.
Bydd y penderfyniad terfynol ar argymhelliad Cyngor Sir Dinbych nawr yn cael ei drafod gan y cabinet.
Llun: Llywelyn2000/Wikimedia
