Arestio tri ar ôl i lofrudd merch ddwy oed yn Sir Benfro farw yn y carchar
Mae'r heddlu wedi arestio tri charcharor ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn o Geredigion a lofruddiodd merch ddwy oed yn Sir Benfro farw yn y carchar.
Galwyd swyddogion i garchar diogelwch uchel Wakefield am 08:25 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi marw yn ei gell yno.
Cadarnhaodd y Gwasanaeth Carchardai mai Kyle Bevan, oedd o Aberystwyth, oedd y dyn oedd wedi marw.
"Mae tri dyn, sydd i gyd yn garcharorion, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth," meddai llefarydd.
Roedd Bevan, 33, yn treulio dedfryd o garchar am oes am lofruddio Lola James, merch ddwy oed ei bartner, ym mis Gorffennaf 2020.
Bu farw'r plentyn bach yn yr ysbyty bedwar diwrnod ar ôl dioddef mwy na 100 o anafiadau yng nghartref y teulu yn Hwlffordd, Sir Benfro.
Roedd Bevan wedi gwadu niweidio Lola, gan honni ei bod wedi syrthio i lawr y grisiau.
Ond clywodd Llys y Goron Abertawe ei bod hi wedi dioddef sawl mis o gam-drin corfforol.
Cafwyd Bevan yn euog ar ôl achos llys a chafodd ddedfryd o leiaf 28 mlynedd yn y carchar ym mis Ebrill 2023.
Cafodd mam Lola ei charcharu am chwe blynedd ar ôl i reithgor ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch.
Daw marwolaeth Bevan lai na mis ar ôl i gyn-ganwr y Lostprophets, Ian Watkins, farw yn yr un carchar.
