Rhybudd coch am lifogydd allai beryglu bywyd yn Sir Benfro
Mae rhybudd coch am lifogydd allai beryglu bywyd mewn grym yn Sir Benfro fore dydd Iau.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r rhybudd yn berthnasol i safle carafanau Kiln Park, ar y ffordd B4318 yn Lôn Clicketts, Ffordd Gumfreston a ffordd gefn Trefloyne yn Ninbych-Y-Pysgod.
Daw'r rhybudd yn dilyn llifogydd sylweddol mewn sawl ardal yn y gorllewin dros y 48 awr ddiwethaf.
Yn ôl y rhybudd diweddaraf ar wefan CNC fore dydd Iau, "mae lefelau afonydd yn codi" ac "mae aflonyddwch sylweddol i'r gymuned yn parhau.
"Mae aflonyddwch sylweddol i'r gymuned yn parhau. Mae llifogydd difrifol yn parhau. Mae llifogydd i eiddo yn parhau. Mae effeithiau difrifol yn parhau yn yr ardal hon."
Ychwanegodd y rhybudd: "Gall lefelau dŵr aros yn uchel am sawl diwrnod oherwydd cyfyngiad ar yr allfa llanw. Mae hyn yn debygol o arwain at lefelau dŵr yn codi dros gyfnod pob llanw uchel.
"Mae'r glawiad trymaf bellach wedi clirio'r ardal hon. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa."
