Dyn o Wynedd yn dringo mynydd uchaf de Cymru 27 gwaith er cof am ei nain
Dyn o Wynedd yn dringo mynydd uchaf de Cymru 27 gwaith er cof am ei nain
Mae dyn o Wynedd wedi llwyddo i gwblhau her o ddringo i gopa Pen y Fan 27 gwaith yn olynol er cof am ei nain.
Fe wnaeth Carl Thompson o Dywyn ddechrau ar un o "heriau anoddaf" ei fywyd dros y penwythnos, ac fe gymrodd dri diwrnod i gwblhau'r her.
Penderfynodd y dyn 34 oed i godi arian ar gyfer yr hosbis oedd yn darparu gofal diwedd oes i'w nain, wnaeth farw o ganser pancreatig yn 71 oed ym mis Mawrth eleni.
Roedd Carl wedi penderfynu dringo'r mynydd 27 gwaith gan fod ei nain wedi derbyn gofal diwedd oes am 27 diwrnod.
Roedd y daith gyfan tua 118 milltir o bellter ac yn 14,550m mewn uchder.
Wrth siarad â Newyddion S4C ar ôl cwblhau'r her, dywedodd Carl bod y gwynt a'r glaw parhaus yn golygu bod dringo'r mynydd yn "heriol iawn".
"Roedd y tywydd wedi troi, gwyntoedd hyd at 40mya yn ddi-baid, weithiau’n gwthio 50mya," meddai.
"Roedd y glaw yn disgyn o bob cyfeiriad ac yn ei wneud yn heriol iawn i gerdded
“Roeddwn i’n disgwyl i’r her fod yn anoddach yn feddyliol, yn enwedig am y rhesymau tu ôl penderfynu gwneud yr her.
“Ond roedd y tywydd mor wael, roedd y ffocws ar hynny yn hytrach na’r emosiynau anodd."
'Beth nesaf?'
Mae Carl yn codi arian i Katharine House Hospice, lle'r oedd ei nain yn derbyn gofal diwedd oes.
Hyd yma mae wedi codi bron i £6,000 i'r hosbis, sydd yn costio £15,000 y dydd i'w rhedeg, meddai.
Roedd nain Carl yn wreiddiol o Donypandy, ac roedd dringo'r copa uchaf yn ne Cymru er ei chof yn "her addas" i'w chwblhau, meddai.
Gyda'r her bellach wedi dod i ben, dyw Carl ddim yn gwybod sut i deimlo.
"Nawr bod yr her wedi’i gwblhau, dydw i ddim yn gwybod sut dwi’n teimlo a bod yn onest," meddai.
"Dwi heb gysgu am dri diwrnod, dwi wedi bod wrthi yn dringo un copa ar ôl y llall.
"Mae rhan ohonof yn falch bod yr her wedi gorffen, ond mae rhan arall ohonof yn gofyn ‘beth sydd nesaf?’"
