'Vibe Coding' wedi cyrraedd y brig ar restr geiriau Saesneg y flwyddyn

Defnyddio AI

'Vibe Coding' sydd wedi ennill statws gair y flwyddyn gan Eiriadur Collins eleni.

Mae'r term yn cyfeirio at broses o droi ieithoedd i gôd cyfrifiadurol, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). 

Cafodd y term ei greu gan Andrej Karpathy, cyn cyfarwyddwr deallusrwydd artiffisial Tesla, ac un o sefydlwyr OpenAI.  

Y broses yn syml yw bod rhywun yn defnyddio technoleg AI i ddisgrifio beth maent eisiau iddo ei wneud, ac yna mae AI yn creu côd yn hytrach na fod yr unigolyn yn gorfod ysgrifennu'r côd eu hunain. 

Caiff ei ddefnyddio gan amlaf gan bobl sy'n gweithio yn y byd technoleg i arbed amser ac archwilio posibiliadau. 

Nid yw'r term wedi cyrraedd y geiriadur Cymraeg hyd yn hyn. 

'Clanker'

Gair arall ddaeth i'r brig oedd 'Clanker' - term dirmygus sy'n bennaf yn cael ei ddefnyddio i fychanu cyfrifiaduron neu robotiaid, yn bennaf AI, er mwyn mynegi rhwystredigaethau neu siom pan nad ydynt yn gweithredu fel y mae rhywun yn ei ddymuno. 

Daeth 'Glaze' i'r brig hefyd eleni, sef gair i ganmol rhywun i'r eithaf, yn ogystal ag 'aura farming' sy'n disgrifio'r weithred o geisio bod yn garismatig.

Gair arall y mae Geiriadur Collins yn ei nodi fel un o eiriau Saesneg y flwyddyn yw "broligarchy" sy'n cyfeirio at berchnogion cwmnïau technoleg mwya'r byd.

'Brat' oedd gair y flwyddyn y llynedd yn dilyn albwm boblogaidd y gantores bop Charli XCX, a wnaeth fabwysiadu'r gair i amlygu "bywyd hyderus, annibynnol gydag agwedd hedonistaidd."

Mae Geiriadur Collins yn dewis gair y flwyddyn drwy fesur cronfa ddata sydd â 24 biliwn o eiriau, a chreu rhestr flynyddol o eiriau newydd neu nodedig. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.