Democratiaid Rhyddfrydol: Ed Davey yn gwrthod dweud a yw'n cefnogi Jane Dodds
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, wedi gwrthod dweud a yw'n credu mai Jane Dodds yw'r person cywir i arwain y blaid yng Nghymru.
Mewn cyfweliad ag ITV Cymru, dywedodd ei fod yn cefnogi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn eu penderfyniad i ofyn i Ms Dodds aros yn y swydd.
Ond wrth gael ei holi a oedd ef ei hun yn ei chefnogi dywedodd ei fod “wedi gwneud fy safbwynt yn glir”.
Fe wnaeth Jane Dodds ymddiheuro i ddioddefwyr cam-drin rhywiol ar ôl derbyn beirniadaeth am ei hymateb i honiadau pan oedd yn gweithio i Eglwys Loegr.
Yn ôl adroddiad fe wnaeth Jane Dodds “gamgymeriad barn difrifol” drwy beidio cynnal cyfarfod i drafod achos cam-drin rhywiol.
Wrth ymateb i’r adroddiad y llynedd, dywedodd Syr Ed Davey wrth y BBC y dylai Dodds “ail-ystyried ei chyfrifoldebau”.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol strwythur ffederal, sy’n golygu nad oes gan arweinydd y blaid ar draws y DU awdurdod uniongyrchol dros yr arweinydd yng Nghymru.
Heb siarad 'am sbel'
Wrth siarad â Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru Adrian Masters yng nghynhadledd y blaid yn Bournemouth dywedodd Ed Davey nad oedd wedi siarad ar lafar â Jane Dodds.
Roedd y ddau wedi anfon negeseuon testun at ei gilydd, meddai.
“Dydw i ddim wedi siarad â hi am sbel fach, a bod yn agored gyda chi,” meddai.
“Rydw i wedi dweud fy mod i'n meddwl bod angen iddi ymddiheuro. Mae hi wedi ymddiheuro, ac mae hynny'n gam cadarnhaol.
“Ac mae'n ymddangos y bydd hi'n ein harwain yn etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf.”
Pan ofynnwyd iddo a yw hi'r person cywir i arwain, atebodd: “Wel, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi gwneud hynny'n glir iawn. Maen nhw'n ei chefnogi hi.
“Rydw i'n cefnogi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.”
“Ond dydych chi ddim yn ei chefnogi hi'n hollol?” gofynnodd Adrian Masters. “Dyna ydw i'n ei gael o'ch atebion chi.”
“Wel, rydw i wedi gwneud fy safbwynt yn glir fy mod i'n meddwl y dylai hi ymddiheuro,” atebodd Ed Davey. “Mae hi wedi ymddiheuro ac rydw i'n croesawu hynny.”
Daw hyn ar ôl i Ed Davey ddweud ym mis Tachwedd 2024 bod angen i Jane Dodds ystyried ymddiswyddo.
“Rwy’n credu bod angen iddi fyfyrio ar hyn yn ofalus iawn,” meddai bryd hynny.
“Rwy’n derbyn ei bod wedi ymddiheuro, ond mae hwn yn fater mor ddifrifol felly rwy’n credu bod angen iddi feddwl am beth arall y gallai fod angen iddi ei wneud.”
‘Adennill tir’
Gwadodd Syr Ed hefyd bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid i Loegr yn unig yn hytrach na Chymru a mynnodd y byddai polau piniwn diweddar yn cael eu profi'n anghywir yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Roedd arolwg barn ddiweddar gan YouGov yn awgrymu bod y blaid ar 6% o’r bleidlais yng Nghymru yn unig ac y byddai yn ennill dwy o 96 o seddi yng Nghymru yn etholiadau’r Senedd.
“Nid yw’r ymgyrch wedi dechrau’n iawn o gwbl a byddwn yn ymgyrchu ledled Cymru,” meddai Ed Davey.
“Mewn mannau gan gynnwys canolbarth Cymru lle rydym wedi bod yn gryf yn draddodiadol, rydyn ni’n credu y gallwn wneud yn dda iawn, ond rydym wedi gwneud yn dda yng Nghaerdydd ac Abertawe.
“Rydym wedi bod yn gwneud yn dda mewn mannau fel Ceredigion, lle roeddem yn arfer bod yn gryf. Rwy’n credu y gallwn adennill tir yno.
“Nid yw wedi’i adlewyrchu yn yr arolygon barn eto, ond rwy’n credu y bydd pan fyddwn yn cyrraedd diwrnod y pleidleisio.”
Ychwanegodd: “Rwy’n credu bod pawb yn gwybod bod y Rhyddfrydwyr wedi bod yn gryf dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru … Nid yn ddiweddar.
“Ond gallwn ddod yn ôl i’n cryfder blaenorol ac rwy’n cael fy nghalonogi’n fawr gan yr hyn y mae [yr AS] David Chadwick wedi bod yn ei wneud. Mae wedi bod yn llais mawr dros Gymru.
“Rwy’n credu bod ein llais yng Nghymru yn tyfu, ac rwy’n credu y byddwch chi’n synnu pa mor dda rydyn ni’n gwneud yn etholiadau’r Senedd.”