Llywodraeth y DU yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn ffurfiol
Llywodraeth y DU yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn ffurfiol
Mae Syr Keir Starmer wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd, er gwaethaf pwysau gan yr Unol Daleithiau a theuluoedd y gwystlon sydd yn gaeth yn nwylo Hamas i beidio a gwneud hynny.
Daeth cadarnhad o'r penderfyniad amser cinio ddydd Sul wedi i'r llywodraeth ddod i'r casgliad bod y sefyllfa wedi gwaethygu ers iddi annog Israel i atal ei hymosodiadau milwrol dros yr haf.
Mae Canada ag Awstralia hefyd wedi cyhoeddi ddydd Sul eu bod yn cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn ffurfiol.
Ynghyd â'r ymosodiad milwrol a'r argyfwng dyngarol yn Gaza, mae Llywodraeth y DU yn bryderus am gynlluniau Israel i wreiddio cymunedau Iddewig newydd ar y Lan Orllewinol.
Dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad hanesyddol wedi ei wneud gyda'r bwriad o “adfywio’r gobaith am heddwch i’r Palesteiniaid a’r Israeliaid”.
Inline Tweet: https://twitter.com/Keir_Starmer/status/1969751392802750719
Dywedodd llefarydd ar ran prif weinidog Israel, Benjamin Netayahu, ei fod yn ystyried cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn “abswrd”.
Dywedodd Shosh Bedrosian wrth ohebwyr: “Mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi awgrymu bod prif weinidog Prydain, Keir Starmer, yn bwriadu cyhoeddi cydnabyddiaeth y DU o wladwriaeth Balesteinaidd heddiw, symudiad y mae’r prif weinidog Netanyahu wedi’i alw’n abswrd ac yn wobr am derfysgaeth."
Ychwanegodd nad oedd Hamas eisiau gwladwriaeth ochr yn ochr ag Israel, ond eu bod “eisiau gwladwriaeth yn lle Israel”.
Dywedodd Syr Keir ym mis Gorffennaf y byddai'n cydnabod Palesteina cyn i arweinwyr y byd gyfarfod yng Nghynfarfod Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf pe na bai'r sefyllfa'n gwella.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad bod y sefyllfa wedi gwaethygu'n sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog David Lammy, a fydd yn cynrychioli'r DU yng Nghynfarfod Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig: “Mae'n bwysig nodi bod cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn ganlyniad i'r ehangu difrifol rydyn ni'n ei weld yn y Lan Orllewinol, y trais gan ymsefydlwyr rydyn ni'n ei weld yn y Lan Orllewinol a'r bwriad a'r arwyddion rydyn ni'n eu gweld i adeiladu, er enghraifft, y datblygiad E1 a fyddai'n chwalu'r posibilrwydd o ateb dwy wladwriaeth.”
Beirniadaeth
Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi rhybuddio y byddai'n grymuso Hamas ac yn bygwth diogelwch Israel.
Mae Syr Keir a'i weinidogion wedi ceisio pwysleisio nad yw cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yn wobr i Hamas, gan ddweud na all y mundiad terfysgol chwarae unrhyw ran yn llywodraethu Gaza yn y dyfodol, gan gynyddu'r galwadau am ryddhau gwystlon.
Mae disgwyl y bydd y Llywodraeth yn cynyddu'r sancsiynau ar Hamas maes o law.
Yn ystod ei ymweliad gwladol â'r DU, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump fod ganddo "anghydfod â'r Prif Weinidog" ynghylch cydnabyddiaeth gwladwriaeth Balesteinaidd.
Gwystlon
Rhybuddiodd grŵp o deuluoedd gwystlon a gipwyd yn yr ymosodiad ar 7 Hydref y gallai cydnabyddiaeth rwystro ymdrechion i'w rhyddhau.
Mewn llythyr agored at Syr Keir, dywedodd y teuluoedd: "Mae eich cyhoeddiad anffodus o fwriad y DU i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd yng Nghyfarfod Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi cymhlethu ymdrechion i ddod â'n hanwyliaid adref yn sylweddol.
"Mae Hamas eisoes wedi dathlu penderfyniad y DU fel buddugoliaeth ac wedi torri cytundeb cadoediad.
"Rydym yn ysgrifennu atoch gyda chais syml - peidiwch â chymryd y cam hwn nes bod ein hanwyliaid adref ac yn ein breichiau."
Mae Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi annog y Prif Weinidog i "fynd ymhellach" a gosod sancsiynau llym yn erbyn Llywodraeth Israel.
"Rhaid i'r Prif Weinidog fynd ymhellach i ddal Llywodraeth Israel i gyfrif am ei hil-laddiad parhaus yn erbyn sifiliaid yn Gaza trwy osod sancsiynau ac atal gwerthu arfau i’r wlad.
"Mae Keir Starmer wedi eistedd ar ei ddwylo am rhy hir ar y mater hwn. Yn y cyfamser, mae bywydau diniwed yn cael eu colli bob dydd gyda llawer o blant yn eu plith.
"Mae cydnabod Gwladwriaeth Palestina yn gam pwysig a hanesyddol, ond mae'n un symbolaidd yn bennaf. Nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth Israel yn bwriadu lleddfu ei ymosodiadau ac felly mae angen gweithredu mwy pendant ac ymarferol o hyd, gyda'r nod o atal y trais a sicrhau cadoediad.
"Mae gan y DU gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i sicrhau bod Israel yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol, ac mae angen gweithredu brys i atal trychineb dyngarol pellach yn Gaza."
Mae Llywodraeth Israel wedi gwadu bod hil-laddiad yn digwydd yn Gaza.
Llun:PA