Tafod Glas: Llacio cyfyngiadau ar gludo da byw rhwng Cymru a Lloegr
Bydd cyfyngiadau ar gludo da byw o Loegr i Gymru yn cael eu llacio ar ôl i fesurau gael eu gosod mewn lle i geisio atal lledaeniad feirws y Tafod Glas.
O 12:00 ddydd Sul bydd modd i anifeiliaid gael eu gwerthu mewn marchnadoedd yng Nghymru a Lloegr, os ydynt wedi cael eu brechu neu beidio.
Ond ni fydd modd i wartheg symud i Gymru o'r ardal sydd dan gyfyngiadau yn Lloegr heblaw eu bod wedi eu brechu yn erbyn Seroteip 3 Feirws y Tafod Glas (BTV-3) neu brawf negyddol cyn symud dros y ffin.
Mae hyn yn disodli'r newidiadau a ddaeth i rym ar 18 Awst pan oedd anifeiliaid yn gallu mynd i farchnadoedd penodol yn Lloegr at ddibenion gwerthu da byw o Gymru yn unig, a hynny o fewn 20km i'r ffin â Chymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y newidiadau yn ceisio "rheoli'r clefyd."
“Rydym wedi addo cadw ein polisi Tafod Glas dan adolygiad ac mae hyn yn cynnwys trafodaethau rheolaidd gyda phartneriaid.
“Yn unol â chyngor y diwydiant, ar ddydd Sul 21 Medi mi fydd rhai cyfyngiadau symud yn cael eu llacio ar gyfer pob anifail sydd wedi’i frechu yn erbyn Seroteip 3 y Feirws Tafod Glas (BTV-3), sy’n symud o’r ardal gyfyngedig i Gymru.
“Mae’r newid yma yn dilyn ceisiadau gan y diwydiant da byw ac mae’n anelu at gefnogi ei weithrediadau wrth gynnal rheolaeth ar y clefyd.”
Ni fydd unrhyw anifeiliaid sydd yn profi'n bositif yn cael symud i Gymru.
Bydd angen iddyn nhw gael prawf negyddol 30 diwrnod wedi'r prawf blaenorol neu frechiad o'r newydd.
O ganlyniad i'r newidiadau bydd anifeiliaid sydd yn mynd i'r lladd-dy yn gallu symud dan drwydded newydd.
Bydd rhaid i'r anifeiliaid fynd i ladd-dy penodol yng Nghymru neu drwy ganolfan benodol.
Nid oes angen i'r anifeiliaid yma cael eu brechu yn erbyn y Tafod Glas.