Mr Blobby, Boca Juniors, pysgod a sglodion: Citiau trawiadol CPD Llanilltud Fawr

Citiau Llanilltud Fawr

Beth sydd gan Mr Blobby, Clwb Pêl-droed Boca Juniors o'r Ariannin, melinau gwynt, a physgod a sglodion yn gyffredin â'u gilydd?

Yr ateb? Maen nhw i gyd wedi ymddangos ar gitiau lliwgar golwyr Clwb Pêl-droed Llanilltud Fawr.

Mae'r clwb ym Mro Morgannwg wedi denu sylw rhyngwladol am eu dewis unigryw o gitiau lliwgar ar gyfer eu golwyr.

Fe ddaeth y syniad i greu citiau trawiadol i'w gwerthu i gefnogwyr gan reolwr cyfryngau cymdeithasol ac un o aelodau pwyllgor y clwb, Ben James.

Dywedodd wrth Newyddion S4C mai'r bwriad ar y cychwyn oedd codi mwy o arian i'r clwb, sydd yn chwarae yn y Cymru South, er mwyn gallu esgyn i fyny'r cynghreiriau.

"Dechreuodd popeth yn 2022, dyna oedd y cit cyntaf i ni greu,"meddai.

"Roeddem wedi ennill y gynghrair yn nhymor 2021/22 ond yn methu dyrchafu i'r Cymru Premier, a hynny oherwydd y gwaith oedd angen ei wneud gyda'r stadiwm.

"Felly roeddwn i wedi meddwl am y syniad o werthu ein cit, achos doeddem ni erioed wedi meddwl gwneud hynny o'r blaen."

Image
Jack Lansown yn gwisgio'r cit unigryw cyntaf a gafodd ei greu. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Jack Lansown yn gwisgio'r cit unigryw cyntaf a gafodd ei greu. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Dechreuodd y clwb weithio gyda chwmni Tor Sports yng Nghasnewydd i greu citiau unigryw - ac fe wnaeth yr ymateb wedi synnu Ben.

"Yr un cyntaf roeddem wedi creu oedd melin gwynt neon, oherwydd bod melin wynt wrth ymyl ein cae.

"Roedd yr ymateb yn hollol annisgwyl - yn wallgof os unrhyw beth.

"Roeddem wedi gwerthu miloedd o grysau ac roedd nifer ein dilynwyr ar Twitter wedi codi'n sylweddol.

"Cafodd crysau eu prynu o'r Ariannin, Awstralia, De Corea ac roedd un tîm 5 pob ochr yn America wedi eu prynu."

Y tymor canlynol penderfynodd Ben fod yn fwy creadigol ac edrych ar pa bobl neu bethau enwog oedd heb hawlfraint arnynt.

Mr Blobby oedd yr un amlwg - ac unwaith eto fe gafodd y cit ei werthu ledled y byd.

Aeth un cefnogwr brwd o'r clwb mor bell a gwylio un o'u gemau mewn gwisg Mr Blobby.

Image
Mr Blobby yn Llaniltud Fawr
Gweld dwbl. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Ond y cit mwyaf poblogaidd o bell yw'r cit pysgod a sglodion.

Ar y cit mae yna ddelwedd o bysgodyn, a sglodion ar hyd y crys a'r siorts.

Yn cwblhau’r cit hynod drawiadol, mae pâr o sanau streipiog sydd ddim yn cydweddu, mewn glas a phinc.

Y cit yma oedd yr un olaf i'r golwr Jack Lansdown, oedd wedi gwisgo pob cit unigryw gan y clwb, cyn iddo ymddeol ar ddiwedd tymor 2024/25.

Fe wisgodd y golwr y cit ar gyfer y tymor cyfan, ac ar ei ymddangosiad olaf i'r clwb fe gafodd cit arbennig ei greu iddo, yn cynnwys elfen o bob un cit roedd wedi eu gwisgo ar hyd y blynyddoedd.

Image
Jack Lansdown
'Gôl-kipper' CPD Llanilltud Fawr, Jack Lansdown. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Eleni mae cit y golwyr yn un lliwgar eto - ac yn cynnwys delwedd o fwnci yn gwisgo crys glas a melyn, a het bwced gyda bathodyn CPD Llanilltud Fawr arno.

Mae hyn yn dathlu'r cysylltiad rhwng y clwb ac un o glybiau mwyaf Yr Ariannin, sef Boca Juniors.

Dechreuodd y berthynas wedi i'r clwb ryddhau eu cit cartref gyda'r lliwiau arferol glas a melyn oedd yn cynnwys y gair, ‘Sglodion’, ar ei flaen.

Sylweddolodd Ben bod cefnogwyr Boca yn hoff o fwncïod ar ôl eu gwylio yng Nghwpan y Byd Clybiau yn America dros yr haf.

"Mae'r cit presennol rydyn ni wedi'i ryddhau oherwydd bod gennym ni gysylltiad arbennig â Boca Juniors ac ar ôl eu gwylio nhw'n fyw sylwais eu bod nhw wir yn caru mwncïod," meddai.

"Felly mae ein dylunydd crysau Gus yn byw yn yr Ariannin ac mae'n gefnogwr Boca. A siaradais â Tor Sports am hyn a chefais syniad i roi mwnci ar grys ac yna gall Gus wneud beth bynnag yr oedd eisiau.

"Unwaith y daeth y dyluniad yn ôl, fe ddywedon ni 'ie' fwy neu lai ar unwaith. Mae'n deyrnged fach i'r holl gefnogwyr Boca sy'n ein cefnogi ni ar-lein."

Unigryw

Mae'r clwb yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn unigryw - ac mae hynny wedi arwain at Lanilltud Fawr yn derbyn gwahoddiad i chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Mae'r Cwpan Fenix yn gystadleuaeth i dimau sydd yn chwarae mewn cynghreiriau is ac sydd ag "arwyddocâd cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol eithriadol."

Cafodd y clwb wahoddiad am y tro cyntaf yn 2023, ac fe fydd y chwaraewyr yn cymryd rhan eto y tymor hwn.

"Ni wedi chwarae yn Llundain, Copenhagen ac Antwerp hyd yma," meddai Ben.

"Gyda maint ein clwb, dydyn ni byth yn mynd i chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr na dim byd tebyg, felly dyma'r lefel uchaf y byddwn ni'n chwarae heb gael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru.

"Mae'r chwaraewyr wrth eu bodd - pan aethon ni i Wlad Belg fe wnaethon ni chwarae o flaen torf o 2,700 ac roedd tân gwyllt, popeth. I'r chwaraewyr roedd yn gyfle iddyn nhw deimlo fel pêl-droedwyr proffesiynol.

"Mae wedi bod yn dda iawn i'r clwb, ac rydyn ni'n ymfalchïo yn ein bod ni ychydig yn wahanol i glybiau eraill yn y ffordd rydyn ni'n mynd ati i wneud pethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.