Rhybudd am garthion yn y môr wrth i filoedd gystadlu yn her Ironman

Ironman Cymru

Mae rhybudd am garthion yn y môr yn Ninbych-y-pysgod wrth i filoedd gystadlu yn her Ironman yn y dref fore Sul.

Mae dros 2,700 o athletwyr yn cymryd rhan yn yr her yn y dref yn Sir Benfro, sydd yn cychwyn gyda nofio 2.4 milltir yn y môr.

Môr y Gogledd yw'r traeth lle mae'r her yn dechrau, ac mae Surfers Against Sewage, un o elusennau cadwraeth forol fwyaf blaenllaw y DU, yn dweud bod carthion wedi eu gollwng yno yn y 48 awr ddiwethaf.

"O fewn ardal Dinbych-y-pysgod mae nifer o allfeydd carthffosiaeth a dŵr sy'n gollwng o amgylch y dref," meddai'r elusen.

"Mae'r prif orsafoedd pwmpio ym Mhorthladd Dinbych-y-pysgod ac yn y Salterns."

Hefyd mae'r elusen wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer traethau eraill cyfagos.

Rhwng 09:00 a 03:00 ddydd Sadwrn a bore Sul roedd rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer sawl sir yng Nghymru, gan gynnwys Sir Benfro.

Mae miloedd wedi teithio i Ddinbych-y-pysgod ddydd Sul i wylio'r her Ironman yn y dref, sef un o'r cyrsiau Ironman anoddaf yn y byd.

Ar ôl cwblhau 2.4 milltir o nofio bydd yr athletwyr yn teithio 112 milltir ar feic cyn ceisio cwblhau marathon.

Dechreuodd y ras am tua 07:00 fore Sul ac mae disgwyl i'r athletwyr proffesiynol orffen o fewn naw i 10 awr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.