Y darlledwr John Stapleton wedi marw'n 79 oed

Llun: PA
John Stapleton

Mae'r darlledwr a'r cyflwynydd teledu John Stapleton wedi marw yn 79 oed.

Dywedodd ei asiant ei fod wedi marw yn heddychlon yn yr ysbyty fore Sul.

Yn ystod ei yrfa roedd wedi cyflwyno sawl rhaglen gan gynnwys Watchdog ar y BBC a News Hour ar GMTV.

Tra'n gweithio i raglen Nationwide ar y BBC rhwng 1975 i 1980 fe ymchwiliodd i lygru mewn cynghorau yn ne Cymru.

Dywedodd ei asiant, Jackie Gill: "Roedd gan John gyflwr Parkinson's, a gafodd ei waethygu gan niwmonia.

"Mae ei fab Nick a'i ferch-yng-nghyfraith Lisa wedi bod wrth ei ochr yn gyson a bu farw John yn heddychlon yn yr ysbyty fore Sul."

Cyhoeddodd John Stapleton fod ganddo Parkinson's ym mis Hydref 2024.

Wrth siarad ar raglen Good Morning Britain ar ôl cyhoeddi'r diagnosis, dywedodd "does dim pwynt bod yn drist… fydd e byth yn newid.

"Bydd Parkinson's gyda fi am weddill fy mywyd. Y peth gorau y gallai ei wneud yw ceisio ei reoli a chymryd cyngor yr holl arbenigwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.