Taith farchogaeth i gofio am 'fenyw arbennig' a fu farw mewn gwrthdrawiad

Sally Allen

Bydd taith farchogaeth yn cael ei chynnal yn Sir Benfro ddydd Sul i gofio am "fenyw ifanc arbennig" 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad.

Bu farw Sally Allen o Gei Cresswell mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin ym mis Gorffennaf.

Dywedodd ei mam mai'r “unig beth sydd gennym ni nawr i gofio am ein Sally hardd yw atgofion a lluniau," wrth roi teyrnged iddi.

Ddydd Sul, fe fydd taith farchogaeth saith milltir o hyd i gofio Sally - oedd yn hoff iawn o geffylau a marchogaeth - yn cael ei chynnal.

Ali Perry a'i thad sydd wedi trefnu'r digwyddiad, a dywedodd Ali bod Sally yn berson "gofalgar."

"Roeddwn i'n nabod Sally ers roedd hi'n faban bach ac roedd hi'n arbennig iawn i ni gyd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Roedd hi'n ferch annwyl, mor gyfeillgar - oedd yn gallu gwneud ffrindiau gyda phobl o bob oedran.

"Roedd ganddi ffordd o gysylltu â phobl, mor ofalgar ac ystyriol."

Image
Sally Allen

Bydd y daith yn cychwyn o Cresselly House am 10:00 ac yn gorffen yn nhref enedigol Sally yng Nghei Cresswell.

Mae dros 70 o farchogion yn dweud y byddent yn cymryd rhan ac fe fydd tad Sally, Hugh Harrison-Allen, yn darparu bwyd iddynt cyn cychwyn ar y daith.

Bydd cerddwyr hefyd yn dilyn y ceffylau ar y daith, gyda cherddoriaeth fyw, a bwyd a diod ar gael pan fydd y daith yn dod i ben.

Fe fydd unrhyw arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at elusen Sandy Bear.

Dywedodd Ali Perry y byddai Sally wedi bod wrth ei bodd yn cymryd rhan yn y daith.

"Syniad fy nhad oedd o, ychydig wedi marwolaeth drist Sally," meddai.

"Roedd Sally yn caru ceffylau ac roeddem yn meddwl bod hwn yn ffordd addas i'w chofio.

"Roedd hi wrth ei bodd gyda cheffylau.

"Byddai Sally wedi caru gwneud hyn, roedd hi pob tro yn awyddus i gael parti a chymryd rhan mewn digwyddiadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.