
Anrhydeddu 'un o hoelion wyth yr iaith' wrth i Gylch Meithrin Rhiwbeina ddathlu'r 60
Byddai pen-blwydd cylch meithrin Cymraeg ar gyrion Caerdydd yn 60 oed ddim yn bosib heb frwdfrydedd “un o hoelion wyth yr iaith,” sydd wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad.
Ddydd Sadwrn cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal yn ardal Rhiwbeina wrth i blac gael ei ddadorchuddio er mwyn dathlu cyfraniad Gwilym Roberts i addysg Gymraeg yr ardal.
Fe wnaeth y Cymro Cymraeg balch chwarae "rhan allweddol” wrth sefydlu Cylch Rhiwbeina, ac mae wedi ei ganmol gan drigolion lleol am ei ddylanwad ar addysg Gymraeg ehangach gyda sefydliad y Mudiad Meithrin.
Wedi iddo ddychwelyd i ddinas ei fagwraeth yn 1958, yn dilyn cyfnod yn y coleg, aeth ati i sefydlu’r Cylch yn ei leoliad gwreiddiol yn Neuadd Goffa Rhiwbeina yn 1959.
Chwe blynedd yn ddiweddarach fe symudodd Cylch Rhiwbeina i Gapel Bethel, Maes y Deri, ble mae’n parhau i “ffynnu” hyd heddiw.
Wrth siarad â Newyddion S4C, disgrifiodd Gwilym Roberts ei falchder o gael ei anrhydeddu ddydd Sadwrn – a bod hynny wedi dod fel “tipyn o sioc.”
“Dwi’n falch iawn chwarae teg bod nhw’n cydnabod y gwaith a ddigwyddodd yn 1959,” meddai.

'Datblygu'
Mae’r cyn athro yn dweud ei fod yn falch o’r ffordd y mae defnydd o’r iaith wedi datblygu yn y brifddinas ers dyddiau cynnar y Cylch hefyd.
“Mae’r ffordd mae’r Gymraeg wedi datblygu yng Nghaerdydd fel prifddinas yn anhygoel.
“Roedd 'na feirniadaeth flynyddoedd yn ôl bod Caerdydd yn Seisnigaidd a bod nhw ddim yn haeddu bod yn brifddinas oherwydd eu hagwedd at y Gymraeg.
“Ond odd hwnna’n gamgymeriad. Fues i i Gaerdydd i ddysgu Cymraeg fel dwsinau o athrawon ifanc eraill a bod ni gyd yn dysgu yn ysgolion.
“Roedd hyn yn golygu bod gwaith yr Urdd yn ysgolion a bod hynny’n arwain i’r athrawon ifanc wedyn yn mynd a’r plant i Langrannog i wersyll yr Urdd.
“’Odd yr holl beth – mi ddatblygodd fel pelen eira mewn gwirionedd.”
'Gweledigaeth'
Mae Cylch Rhiwbeina yn parhau yn agos iawn at galonnau pobl leol yr ardal – gan gynnwys teulu Emyr Afan a’i wraig Mair Afan Davies, cyfarwyddwyr cwmni teledu Afanti.
Mae’r ddau wedi bod wrth galon trefniadau ddydd Sadwrn yn sgil eu cysylltiad agos gyda’r cylch meithrin. Roedd Mair yn gyn-aelod yno yn ystod ei magwraeth ac mae eu pedwar o blant hefyd wedi bod yn aelodau yno.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Emyr Afan: “Heb fod yr ysgol feithrin yna wedi ei sefydlu, dwi’n amau’n fawr na fysa’ ysgolion uwchradd Caerdydd yn bodoli heddiw.
“Dyna’r fath o weledigaeth oedd gynna’ fe, dyw e ddim di stopio.”

'Diolch'
Mae Gwilym wedi treulio 31 o flynyddoedd fel Ysgrifennydd y Cylch ac mae ei frwdfrydedd yn ystod y cyfnod hwnnw wedi sicrhau “hirhoedledd addysg gynnar Gymraeg yn Rhiwbeina a tu hwnt,” meddai Mair Afan Davies.
Roedd sefydliad Cylch Rhiwbeina wedi sbarduno trafodaethau ehangach a wnaeth arwain yn y pen draw at sefydlu mudiad arbennig, sef y Mudiad Meithrin, esboniodd.
“Tyfodd y syniad yn dilyn trafodaeth ym Mhwyllgor Canolog Ysgolion Meithrin Caerdydd i fod yn benderfyniad i sefydlu mudiad, y Mudiad Meithrin, yn dilyn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971 ac yn Aberystwyth wedi hynny.
“Pwy oedd Cadeirydd cyntaf y Mudiad? Emyr Jenkins. Pwy oedd yr Ysgrifennydd cyntaf? Bethan Roberts. Pwy oedd Cadeirydd y Mudiad am bedair blynedd (1981-5) ond Gwilym.
“Felly rydym mewn gwirionedd yn dathlu llawer mwy na 60 mlynedd yng Nghapel Bethel gan fod gan Rhiwbeina le anrhydeddus yn hanes datblygiad addysg Gymraeg – a gyda’r Cylch ddechreuodd hynny.”
Mae’r teulu ymhlith trigolion eraill yr ardal yn awyddus i ddiolch i Gwilym am ei frwdfrydedd diflino tuag at yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Emyr Afan: “’Da ni eisiau Gwilym i weld bod ni’n ddiolchgar. Dyna’r prif beth, dweud diolch iddo fe achos ‘da ni byth yn diolch ddigon i bobl."