Cyn-AS Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu achos llys mewn cysylltiad â phasbort ffug
Bydd cyn-AS Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf wedi'i chyhuddo o fod â phasbort ffug tra’r oedd yn eistedd yn Senedd San Steffan.
Roedd Katie Wallis, 41, o Dre Biwt, Caerdydd, yn AS o 2019 i 2024, a hi oedd yr AS trawsryweddol agored cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin pan gyhoeddodd ei bod wedi newid ei rhyw yn 2022.
Ymddangosodd Wallis, sy'n defnyddio rhagenwau benywaidd ac a elwid gynt yn Jamie, gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun gan ei chynrychioli ei hun.
Mae hi'n wynebu dau gyhuddiad yn ymwneud â bod â phasbort ffug.
Y cyntaf yw meddu ar ddogfen adnabod gyda bwriad amhriodol, "sef pasbort Prydeinig yn enw Jamie Wallis, a oedd yn ffug ac yr oedd hi'n gwybod neu'n credu ei fod yn ffug".
Mae'r ail gyhuddiad yn ymwneud â meddu ar ddogfen adnabod ffug yn enw Jamie Wallis "a oedd yn ffug," ym mis Ebrill 2022.
Ni wnaeth y diffynnydd bledio i'r ddau gyhuddiad.
Penderfynodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, bennu dyddiad o 2 Tachwedd y flwyddyn nesaf ar gyfer yr achos llys.
Fe gafodd Wallis, a ymddangosodd yn y llys yn gwisgo ffrog ddu ac yn cario cot binc hir, ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.