Rhybudd am yrru mewn llifogydd ar ôl achub person o gar
Mae’r gwasanaethau brys wedi rhybuddio am beryglon gyrru mewn llifogydd ar ôl achub person oedd yn gaeth yn ei gar mewn dŵr yng Ngheredigion.
Roedd dynion tân o Gaerfyrddin, Hwlffordd, Aberteifi a Chrymych yn rhan o’r ymdrechion i achub yr unigolyn yn Llechryd ar ôl derbyn galwad tua 14.57 ddydd Sul.
Defnyddiodd y criwiau o Wasanaeth Tan ac Achub Canolbarth Cymru sled achub i gyrraedd yr unigolyn a'i dynnu o'i gerbyd.
Gadawodd y criwiau'r lleoliad am 16.08.
“Mae'n hawdd dod ar draws llifogydd yn annisgwyl, yn enwedig ar ffyrdd heb eu rhestru a ffyrdd gwledig,” meddai llefarydd.,
“Gall rhannau o'r ffordd sydd wedi ei effeithio gan lifogydd fod yn ddyfnach ac yn llifo'n gyflymach nag y maent yn ymddangos.
“Os byddwch chi'n digwydd dod ar draws llifogydd annisgwyl a sydyn, peidiwch â pharhau. Trowch o gwmpas a dewch o hyd i lwybr arall.”