Cyn-chwaraewr rygbi bron i dair gwaith dros y lefel alcohol cyfreithiol pan fuodd farw mewn storm
Mae cwest wedi clywed fod cyn chwaraewr rygbi o Loegr, a gafodd ei ladd wrth geisio gyrru ei gar drwy afon yn ystod Storm, bron i dair gwaith dros y terfyn alcohol cyfreithiol ar y pryd.
Cafodd car Toyota Hilux y cyn asgellwr 43 oed, Tom Voyce ei olchi i ffwrdd wrth geisio croesi Afon Aln ger Alnwick, sir Northumberland, ym mis Rhagfyr y llynedd.
Daethpwyd o hyd i’w gorff yn yr afon yn ddiweddarach, rai cannoedd o fetrau i lawr yr afon o’r rhyd lle ceisiodd ei chroesi.
Clywodd cwest yn Morpeth, sir Northumberland, fod Mr Voyce wedi bod yn saethu ar fferm ei frawd-yng-nghyfraith, cyn treulio’r noson yn nhafarn Queen’s Head yn Glanton.
Fe wnaeth y crwner Andrew Hetherington ddyfarnu bod y farwolaeth yn ddamweiniol.
Dywedodd Hugh Wood, brawd i wraig Mr Voyce, Anna, bod 16 o bobl wedi bod yn saethu ar ei fferm y diwrnod hwnnw. Er gwaetha’r tywydd garw, roedd y bobl wedi rhannu potel o bort rhyngddynt.
Gorffennodd y digwyddiad am 17.30, cyn i sawl person fynd i’r dafarn, ble’r oeddent yn parhau i yfed alcohol.
Dywedodd Mr Wood nad oedd wedi sylwi unrhyw sgil effeithiau negyddol ar Mr Voyce y noson honno.
Roedd llifogydd ar sawl ffordd y diwrnod hwnnw, meddai.
Fe wnaeth Mrs Voyce gysylltu â’r heddlu ar y diwrnod canlynol, wedi i'w gŵr fethu â chyrraedd adref. Dywedodd Mr Wood “dyna pa bryd wnaethon ni sylweddoli y dylwn ni fynd i chwilio yn y rhydau a dyna ble gwelsom ei gerbyd.”
Dywedodd y patholegydd Dr Clive Bloxham mai boddi mewn dŵr oedd achos marwolaeth Mr Voyce, gyda deifwyr yn canfod ei gorff ar 12 Rhagfyr mewn pwll oedd yn mesur dwy fedr o ddyfnder.
Dangosodd profion tocsicoleg bod yna “lefel uchel o alcohol” yn ei waed, gyda darlleniad o 215 miligram o alcohol bob 100 ml. Dim ond 80 miligram yw’r terfyn cyfreithiol.
“Mae hyn dros ddwywaith a hanner, bron i dair gwaith y terfyn hwnnw,” meddai Dr Bloxham.
“Er gwaethaf y posibilrwydd ei fod yn gallu goddef yfed alcohol, byddai disgwyl i’r lefel yma o alcohol fod wedi amharu ar ei allu i wneud penderfyniadau.”ychwanegodd.