Carcharu dyn a menyw o Ben-y-bont am dreisio merch 17 oed

Screenshot 2025-09-22 at 14.20.19.png

Mae dyn a menyw o bentref ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi eu dedfrydu i gyfanswm o dros 16 mlynedd yn y carchar ar ôl treisio merch oedd yn 17 ar y pryd.

Cafodd Sean Ellis-Evans a’i bartner Sarah Vigus o Ogledd Corneli eu dedfrydu i garchar am dros 8 mlynedd yr un yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun. 

Fe ddaeth y ddedfryd ôl i’r pâr eu cael yn euog o dreisio'r ferch 17 oed ym mis Medi 2022. 

Roedd ymchwiliad wedi darganfod fod Ellis-Evans a Vigus wedi trafod cael perthynas rhywiol gyda’r ferch cyn iddynt ymosod arni.  

Roedd y ferch 17 oed wedi treulio’r noson gyda’r ddau mewn tafarn lleol cyn iddi gael ei gwahodd yn ôl i’w cartref yn Heol Degwm. 

Mewn datganiad i Heddlu’r De dywedodd y ferch ar y pryd nad oedd hi’n gallu cofio llawer ar ôl cyrraedd y tŷ, oni bai ei bod wedi cwympo i gysgu ar y soffa lawr stâr yn yr eiddo.

Pan ddeffrodd y ferch, roedd Ellis-Evans yn ymosod yn rhywiol arni ac roedd Vigus hefyd yn yr un ystafell. Dywedodd ei bod hi hefyd yn cofio teimlo Vigus yn cyffwrdd ei chorff. 

Roedd Vigus hefyd wedi ceisio atal y ferch rhag dianc wedi iddi ddeffro, ond wedi iddi lwyddo i ddianc, roedd Ellis-Evans hefyd wedi ei dilyn yn ôl i'w chartref.

Fe ddywedodd y ferch wrth ei rhieni beth oedd wedi digwydd, ac yna fe gafodd yr ymosodiad ei adrodd i'r heddlu gan y rhieni. 

'Goroesi'

Fel rhan o’i datganiad personol dywedodd y dioddefwr bod ei bywyd a’i iechyd meddwl wedi “newid yn gyfan gwbl” ers yr ymosodiad. 

Ers i Ellis-Evans a Vigus eu cael yn euog ar 4 Ebrill 2025, dywedodd y dioddefwr ei bod hi'n "teimlo'n euog am fod yn faich ar fy rhieni. 

"Rwy'n gwisgo mwgwd, gan guddio fy nheimladau go iawn.

“Fe wnes i adael y coleg ond dwi bellach wedi dychwelyd er mwyn canolbwyntio ar fy ngradd mewn addysg, gan obeithio ailadeiladu fy mywyd a gwneud fy rhieni'n falch.” meddai mewn datganiad drwy law y llys.

Dedfrydu

Roedd gwybodaeth ar ffonau symudol Ellis-Evans a Vigus yn dangos trafodaethau rhwng y pâr am gael perthynas rhywiol gyda’r ferch. 

Roedden nhw wedi prynu diodydd yn cynnwys alcohol iddi cyn ei gwahodd yn ôl i’w cartref.

Ddydd Llun fe gafodd Sean Ellis-Evans, 39 oed, ei ddedfrydu i 8 mlynedd a thri mis yn y carchar am achos o dreisio, ac fe gafodd Sarah Marie Vigus, sy'n 38 oed, hefyd ei dedfrydu i 8 mlynedd a thri mis am achos o dreisio ac o ymosod yn rhywiol ar fenyw.

Dywedodd Jessica Pritchard o Heddlu’r De ei bod yn canmol dewrder y fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad.

“Rwy’n gobeithio bod hyn yn dod a rhyw deimlad o heddwch iddi wrth iddi ddechrau ailadeiladu ei bywyd.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.