Elusennau yn cefnu ar Dduges Caerefrog dros e-bost at Jeffrey Epstein

22/09/2025
Sarah Ferguson

Mae chwe elusen wedi torri cysylltiad â Duges Caerefrog wedi iddi ddod i’r amlwg ei bod wedi gyrru e-bost at y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Dywedodd yr elusen i blant, Julia’s House, mewn datganiad ddydd Llun eu bod nhw “wedi penderfynu na fyddai'n briodol iddi barhau fel noddwr yr elusen”.

"Rydym wedi hysbysu Duges Caerefrog o'r penderfyniad hwn ac yn diolch iddi am ei chefnogaeth yn y gorffennol,” medden nhw.

Yn dilyn y datganiad, fe wnaeth tair elusen arall gyhoeddi eu bod yn dod a'u perthynas gyda'r Dduges i ben, sef Natasha Allergy Research Foundation, Children's Literacy Charity a Prevent Breast Cancer.

Fe wnaeth Teenage Cancer Trust hefyd gyhoeddi yn ddiweddarach eu bod yn torri cysylltiad â’r Duges, ar ôl iddi dreulio 35 mlynedd fel noddwr i’r elusen.

A’r British Heart Foundation yw’r diweddaraf i ddod â’u perthynas â’r Dduges i ben, gan ddweud eu bod yn ddiolchgar am ei "chymorth" yn y gorffennol.

Daw wedi i bapur newydd The Sun adrodd fod y Dduges wedi “ymddiheuro’n ostyngedig” i Epstein am ei gysylltu â pedoffilia, gan ei ddisgrifio fel cyfaill “dibynadwy” a “hael”.

Dywedodd llefarydd ar ran Sarah Ferguson i’r e-bost gael ei anfon “yng nghyd-destun cyngor a roddwyd i’r Dduges i geisio tawelu Epstein a’i fygythiadau”.

Daeth yr e-bost yn dilyn cyfweliad gyda'r Evening Standard ar 7 Mawrth, 2011, lle ymddiheurodd am dderbyn £15,000 gan y troseddwr rhyw.

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd wrth y papur newydd: “Rwy'n ffieiddio pedoffilia ac unrhyw gam-drin plant yn rhywiol ac yn gwybod bod hwn yn gamgymeriad barn enfawr ar fy rhan. 

“Rydw i’n edifar fwy na alla i ei roi mewn geiriau.

“Fe fyddaf yn ad-dalu'r arian ac ni fyddaf fyth yn ymwneud â Jeffrey Epstein eto.”

Ychydig dros fis yn ddiweddarach, anfonodd y Dduges neges at Epstein, gan ddweud: “Rwy'n gwybod dy fod yn teimlo'n siomedig iawn gyda fi.

“A rhaid i mi ymddiheuro'n ostyngedig i ti am hynny.

“Rwyt ti bob amser wedi bod yn ffrind dibynadwy a hael i mi a fy nheulu.”

Parhaodd: “Cefais gyngor heb amheuaeth, i beidio â chael dim i'w wneud â thi a pheidio â siarad â thi na dy e-bostio.

“A phe bawn i’n gwneud hynny - byddwn i’n achosi mwy o broblemau i ti, y Dug a minnau. Roeddwn i wedi torri ac ar goll.

“Felly gobeithio dy fod yn deall. Doeddwn i ddim eisiau brifo Andrew unwaith eto. Roeddwn i mewn ofn llethol. Mae’n ddrwg gen i.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Dduges yn flaenorol bod Epstein wedi bygwth ei herlyn am enllib am ei gysylltu â phedoffilia.

Cafwyd hyd i Epstein yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan, yn yr Unol Daleithiau, ym mis Awst 2019 tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau rhyw.

Penderfynodd Archwiliwr Cyffredinol Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ei fod wedi ei ladd ei hun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.