Chwysigod y Môr: Rhybudd o Wynedd i'r cyhoedd fod yn ofalus ar draethau

Chwysigod y Môr

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio pobl i fod yn ofalus os ydynt yn dod ar draws Chwysigod y Môr ar draethau'r sir.

Er eu bod yn edrych fel sglefrod môr, nid yw’r Chwysigen fôr ('Portuguese man o' war') yn perthyn i’r rhywogaeth honno.

Nid yw’n un creadur unigol, ond yn hytrach nifer o anifeiliaid unigol sy’n ffurfio un endid a elwir yn seiffonoffor.

Mewn neges, dywedodd Cyngor Gwynedd: "Rydym yn parhau i ddarganfod Chwysigod y Môr ar draethau Gwynedd, felly os y byddwch yn ymweld â'r traeth dros y dyddiau nesaf byddwch yn wyliadwrus ohonynt.

"Cofiwch na ddylech eu cyffwrdd ac ni ddylech adael i'ch cŵn eu cyffwrdd chwaith."

Mae'r cyngor yn gofyn i bobl sydd yn eu gweld ar draethau'r sir gysylltu gyda Swyddfa Forwrol y cyngor.

Yr wythnos ddiwethaf fe rybuddiodd Gwylwyr y Glannau bobl am y creaduriaid gwenwynig ar ôl i Chwysigod gael eu darganfod ar draethau Ynys Môn a Cheredigion.

Roedd y creaduriaid wedi cael eu gweld ar draeth Porth Trecastell, Ynys Môn, ac ar draethau Bae Ceredigion.

“Mae Gwylwyr y Glannau yn rhybuddio y gall y creaduriaid hyn roi pigiad hynod o boenus, hyd yn oed pan fyddant wedi marw,” meddai Gwylwyr y Glannau Bangor.

“Peidiwch â’u cyffwrdd – mae hyn yn berthnasol i bobl a chŵn.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.