Ail ddiwrnod o drafferthion i rai teithwyr wedi 'ymosodiad seiber'
Mae teithwyr yn wynebu ail ddiwrnod o drafferthion mewn sawl maes awyr Ewropeaidd, gan gynnwys Heathrow yn Llundain, ar ôl i ymosodiad seiber honedig dargedu darparwr gwasanaeth ar gyfer systemau cofrestru teithiau meysydd awyr.
Fe welodd meysydd awyr Heathrow, Brwsel a Berlin oedi ac aflonyddwch ddydd Sadwrn yn dilyn y “mater technegol” sy’n effeithio ar Collins Aerospace, sy’n gweithio i sawl cwmni hedfan mewn sawl maes awyr ledled y byd.
Dywedodd Heathrow y dylai teithwyr wirio eu hediad cyn teithio i'r maes awyr yng ngorllewin Llundain ddydd Sul:
“Mae gwaith yn parhau i ddatrys ac adfer y broblem effeithiodd ar system awyrennau Collins Aerospace ddydd Gwener a effeithiodd ar y broses gofrestru,” meddai Heathrow.
“Rydym yn ymddiheuro i’r rhai sydd wedi wynebu oedi, ond trwy gydweithio â chwmnïau hedfan, mae’r mwyafrif helaeth o hediadau wedi parhau i weithredu.
“Rydym yn annog teithwyr i wirio statws eu hediad cyn teithio i Heathrow ac i gyrraedd dim cynharach na thair awr ar gyfer hediadau pellter hir a dwy awr ar gyfer hediadau pellter byr.”
Mae Terfynfa 5 yn Heathrow yn parhau heb ei effeithio ac wedi bod yn gweithredu fel arfer.