
Achub dyn ar ôl iddo ddisgyn 20 troedfedd oddi ar fynydd yn Eryri
Mae dyn wedi cael ei achub ar ôl iddo ddisgyn 20 troedfedd oddi ar fynydd a dioddef anafiadau i'w ben a'i gefn yn Eryri.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn eu galw gan Heddlu'r Gogledd i gynorthwyo dyn a ddioddefodd anafiadau ar Foel Hebog.
Roedd y dyn wedi disgyn 20 troedfedd tra'n cerdded i lawr o'r copa ac fe ddioddefodd anafiadau i'w ben a'i gefn ar 8 Medi.
Fe wnaeth dau gerddwr ei gynorthwyo a lapio rhwymyn rownd ei ben, a'i helpu i gwrdd â'i wraig oedd ar waelod y mynydd.

Ffoniodd y cerddwyr y tîm achub mynydd ac aros gyda'r dyn cyn i'r criw achub mynydd gyrraedd.
Wedi asesiad gan ddoctor, penderfynodd y tîm achub mynydd ofyn am hofrennydd i gludo'r dyn o'r mynydd "er mwyn osgoi taith boenus i'r dyn wrth gerdded i lawr tirwedd serth."
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ar gyfer asesiadau pellach. Roedd sganiau wedi canfod ei fod wedi dioddef toriad i waelod asgwrn ei gefn.